Mae corff llywodraethu pêl-droed UEFA wedi cadarnhau bod Laura McAllister am sefyll heb wrthwynebiad i fod yn Aelod Benywaidd ar eu pwyllgor.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi derbyn cadarnhad gan UEFA am yr eiliad hanesyddol – dyma fydd y tro cyntaf i rywun o Gymru gael bod ar y pwyllgor.

Ei henw hi yn unig gafodd ei gyflwyno cyn y dyddiad cau ar Chwefror 5, ac fe fydd y bleidlais i’w hethol yn swyddogol yn cael ei chynnal ar Ebrill 5 pan fydd UEFA yn cynnal cyfarfod cyngres yn Lisbon.

‘Carreg filltir enfawr eto’

“Mae strategaeth ‘Ein Cymru’ Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ymrwymo i gael ein llais ar brif fyrddau pêl-droed Ewrop a’r byd,” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Pan gaiff lle Laura ar Bwyllgor Gweithredol UEFA ei gadarnhau’n ffurfiol ym mis Ebrill, byddwn ni wedi cyflawni carreg filltir enfawr eto yn ein strategaeth, gyda Laura fel y person cyntaf erioed o Gymru ar Fwrdd UEFA neu FIFA yn hanes Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynrychioli cenedl gyfoes, flaengar ac rwy’n gwybod y bydd gwybodaeth a phrofiad Laura’n ased enfawr i’r teulu pêl-droed Ewropeaidd eang ac amrywiol.

“Bydd hi hefyd yn cynrychioli Cymru a phêl-droed Cymru’n bositif.”

‘Cyflawniad rhyfeddol’

Bu’r Athro Laura McAllister yn Ddirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA ac yn aelod o Weithgor UEFA ar Gydraddoldeb Rhyweddol.

Yn gyn-gapten ar dîm Cymru, enillodd hi 24 o gapiau dros ei gwlad, a bu’n ymwneud ag arweinyddiaeth a llywodraethiant chwaraeon ers iddi ymddeol o’r cae chwarae.

“Mae pêl-droed Cymru’n torri trwy lawer o nenfydau gwydr ar hyn o bryd, a bydd ymuno â Phwyllgor Gwaith UEFA yn gyflawniad rhyfeddol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn eiliad falch iawn i fi a’r teulu,” meddai.

“Unwaith dw i’n cael fy ethol yn swyddogol i’r Pwyllgor Gwaith yn y Gyngres ym mis Ebrill, byddaf yn ymroi’n llwyr i weithio i wella pêl-droed Ewropeaidd, a dw i’n edrych ymlaen at gyfrannu at ddyfodol llewyrchus i bêl-droed i bawb yn ein gêm hardd.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar y daith hon hyd yn hyn, ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am fy enwebu i Bwyllgor Gwaith UEFA.”