Mae Jim Telfer, cyn-hyfforddwr tîm rygbi’r Alban, wedi aildanio’r ddadl tros anthem y wlad.

Dywedodd y gŵr 82 oed yn y 1990au y dylai’r tîm rygbi cenedlaethol fabwysiadu anthem “aeddfed” yn hytrach nag un sy’n lladd ar Loegr a’r Saeson.

Mae’r Alban yn canu ‘Flower of Scotland’ cyn gemau ers 1990, ac mae hi bellach yn cael ei hystyried yn anthem genedlaethol yn y byd chwaraeon a thu hwnt.

Daw sylwadau diweddaraf Jim Telfer ar drothwy’r gêm Cwpan Calcutta rhwng yr Alban a Lloegr ar gae Twickenham ddydd Sadwrn (Chwefror 4).

Bydd Cymru’n herio’r Alban yng Nghaeredin ar Chwefror 11.

“Mae angen i ni roi’r gorau i ddiffinio’n hunain drwy Loegr, a byddai’n arwydd o aeddfedrwydd pe baen ni’n cael anthem genedlaethol weddus i ni’n hunain,” meddai yn 2010.

“Dylen ni ei newid a chael rhywbeth sy’n ein hadlewyrchu ni fel cenedl aeddfed, yn hytrach na siarad am wlad arall.

“Byddai’n ein dangos ni mewn goleuni gwell.”

Brwydr Bannockburn

Mae ‘Flower of Scotland’ yn adrodd hanes buddugoliaeth yr Alban dros Loegr ym Mrwydr Bannockburn yn 1314.

Yn ôl Jim Telfer, roedd yr anthem yn “cael y dorf y tu ôl i ni”, ond “hoffwn feddwl ein bod ni wedi symud yn ein blaenau”, meddai wrth The Times.

Er ei bod hi’n anthem angerddol sy’n codi hwyl ymhlith y dorf, dywed “oherwydd ei bod hi yn erbyn gwlad arall, dw i dal ddim yn credu mai hi yw’r anthem ddelfrydol”.

Ond un sy’n anghytuno yw Gregor Townsend, prif hyfforddwr presennol tîm rygbi’r Alban.

“Dw i’n dwlu arni,” meddai.

“Mae’n un o’r achlysuron unigryw yn y byd chwaraeon, efallai’n fwy felly ym Murrayfield pan fo’r ail bennill yn cael ei chwarae heb gyfeiliant cerddorol.

“Pryd bynnag y gwnes i chwarae mewn ambell le y tu allan i’r Alban a’u bod nhw eisiau chwarae ‘Flower of Scotland’, boed hynny yn Awstralia neu Ffrainc, roedden nhw wrth eu boddau â’r anthem felly mae’n golygu llawer i’n cefnogwyr.

“Maen nhw hefyd fel pe baen nhw eisiau iddi barhau.”