Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi ei dîm cyntaf ers dychwelyd i’r swydd.

Bydd Cymru’n herio Iwerddon yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn (Chwefror 4) yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’r holl docynnau ar gyfer y gêm wedi’u gwerthu.

Yn chwarae yn y twrnament am y tro cyntaf fydd Joe Hawkins, canolwr y Gweilch enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Awstralia yn yr hydref.

Bydd yn cadw cwmni i George North yn y canol.

Yn y rheng flaen fydd Gareth Thomas a Tomas Francis y naill ochr a’r llall i’r capten newydd Ken Owens, tra bydd Alun Wyn Jones ac Adam Beard yn yr ail reng.

Yn cwblhau’r blaenwyr mae’r wythwr Taulupe Faletau a’r blaenasgellwyr Jac Morgan a Justin Tipuric.

Yr haneri fydd y mewnwr Tomos Williams a’r maswr Dan Biggar, sy’n dychwelyd ar ôl colli allan ar gemau’r hydref o ganlyniad i anaf.

Yn safle’r cefnwr fydd Leigh Halfpenny, sy’n dychwelyd i’r pymtheg am y tro cyntaf ers haf 2021 ar ôl bod yn eilydd ar gyfer y golled yn erbyn Georgia yn yr hydref.

Ar yr esgyll fydd Rio Dyer a Josh Adams.

Mae’r maswr Owen Williams a’r bachwr Scott Baldwin wedi’u henwi ymhlith yr eilyddion, ynghyd â Dafydd Jenkins a Tommy Reffell, dau fyddai’n ennill eu capiau cyntaf pe baen nhw’n camu ar y cae, Rhys Carré, Dillon Lewis, Alex Cuthbert a Rhys Webb, sydd heb chwarae dros Gymru ers hydref 2020.

Canu clodydd Joe Hawkins

Wrth gyhoeddi’r tîm, mae Warren Gatland wedi canu clodydd y canolwr Joe Hawkins.

“Mae e’n bêl-droediwr hyfryd â sgiliau gwych,” meddai’r prif hyfforddwr.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n rhagorol yn ei gap cyntaf, felly rydyn ni wedi rhoi cyfle arall iddo fel.

“Mae cystadleuaeth wirioneddol yng nghanol y cae ar hyn o bryd, felly dw i wedi cyffroi’n fawr.

“Mae yna gymysgedd yn y tîm o ran profiad a rhai chwaraewyr iau.

“Roedden ni’n ymwybodol hefyd o ran dewis y fainc.

“Rydyn ni’n credu bod gennym ni fainc sy’n gallu dod ymlaen a chael effaith.

“Iwerddon yw’r tîm rhif un yn y byd, felly maen nhw’n mynd i ddod yma â llawer o hyder.

“Dydych chi ddim yn dod yn dîm rhif un y byd heb fod gennych chi berfformiadau eithaf cyson.

“Rydyn ni’n gwybod pa mor dda ydyn nhw, ac rydyn ni’n disgwyl gornest wirioneddol anodd.

“Mae’n bwysig i ni ddechrau’n dda, ond mae angen i ni fod yn y gêm yn yr ugain munud olaf.”

Tîm Cymru:

L Halfpenny, J Adams, G North, J Hawkins, R Dyer, D Biggar, T Williams; G Thomas, K Owens (capten), T Francis, A Beard, A W Jones, J Morgan, J Tipuric, T Faletau.

Eilyddion:

S Baldwin, R Carré, D Lewis, D Jenkins, T Reffell, R Webb, O Williams, A Cuthbert