Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton ymhlith y chwaraewyr fydd yn herio’i gilydd yn yr Uwch Gynghrair Dartiau eleni.

Bydd y twrnament yn dechrau yn Belfast nos Iau (Chwefror 2), wrth i’r Iseldirwr Michael van Gerwen geisio amddiffyn ei deitl.

Ar ôl ennill y Meistri, mae Chris Dobey wedi’i ddewis fel cystadleuydd ar ôl sawl ymddangosiad fel gwestai yn y gorffennol, ynghyd â Nathan Aspinall, Dimitri van den Bergh, Peter Wright, a phencampwr y byd Michael Smith.

Bydd y Cymro Cymraeg Clayton o Bontyberem yn ceisio codi’r tlws enillodd e yn 2021.

Bydd 16 o nosweithiau yn ystod y twrnament, gyda phob noson yn cynnwys rownd wyth olaf, rownd gyn-derfynol a rownd derfynol, ac am y gorau i ennill 11 o gemau fydd hi er mwyn ennill gornest.

Bydd pwyntiau’n cyfrif tuag at y gynghrair bob nos, gyda’r pedwar chwaraewr gorau yn cyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y gynghrair ar Fai 25.

Bydd y twrnament yn dod i Gaerdydd ar Chwefror 9.