Gyda’r ffenest drosglwyddo’n cau’n glep ar glybiau pêl-droed yng nghynghreiriau Lloegr am 11 o’r gloch neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 31), digon cymysg oedd hanes clybiau Cymru yn y cynghreiriau hynny.

Denodd Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam un chwaraewr newydd yr un ar ddiwrnod ola’r ffenest, ond fyddai cefnogwyr Abertawe heb gael eu synnu mai ymadawiad arall oedd eu prif stori nhw tua diwedd y cyfnod.

Mae Michael Obafemi wedi ymuno â Burnley ar fenthyg, gyda’r opsiwn o’i brynu ar ddiwedd y tymor.

Sgoriodd yr ymosodwr 15 o goliau mewn 52 o gemau i’r Elyrch ers symud o Southampton flwyddyn a hanner yn ôl, ond roedd hi’n amlwg ers tro ei fod e’n dymuno gadael y clwb.

Roedd cwestiynau’n aml am ei agwedd a’i ffitrwydd, er bod y cyn-reolwr Steve Cooper yn canu ei glodydd am gryn amser cyn ei ddenu ar ôl i ymgais wreiddiol orffen â siom wrth iddo gael ei anafu ar drothwy’r trosglwyddiad.

Y tymor hwn, mae e wedi bod i mewn ac allan o’r tîm ac roedd marciau cwestiwn am ei ddyfodol ar ddechrau’r tymor pan ddaeth hi i’r amlwg fod Burnley yn awyddus i’w ddenu atyn nhw.

Ond yr un peth positif i gefnogwyr Abertawe yw fod y clwb wedi gwrthod sawl cynnig blaenorol gan nad oedd y pris yn ddigon da, felly er bod y perchnogion Americanaidd yn parhau i ddangos nad ydyn nhw’n awyddus, neu o leia’n methu denu chwaraewyr, mae rhyw awgrym bellach na fyddan nhw’n derbyn y cynnig cyntaf am arian sy’n dod iddyn nhw.

Wedi i’r ffenest gau, fe wnaethon nhw gadarnhau eu bod nhw wedi denu’r chwaraewr canol cae Albanaidd Liam Smith o Academi Manchester City ar gytundeb dwy flynedd a hanner.

Bydd e, serch hynny, yn aelod o’r tîm dan 21 ac nid y brif garfan.

Symudodd i Fanceinion yn 2020 ar ôl cyfnod hir gyda Kilmarnock, lle cafodd ei fagu.

Mae’n chwaraewr canol cae ymosodol ac yn asgellwr.

Caerdydd

Yn y cyfamser, mae Caerdydd wedi denu’r blaenwr Sory Kaba o FC Midtjylland ar fenthyg am weddill y tymor.

Mae’n ymosodwr rhyngwladol i Guinea, sydd wedi ennill 14 o gapiau dros ei wlad gan sgorio tair gôl.

Dechreuodd ei yrfa yn Sbaen gyda chlwb Alcobendas CF, ac fe ymunodd â Midtjylland yn 2019 yn dilyn cyfnodau gydag Elche a Dijon.

Enillodd e’r Superliga yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb yn Nenmarc, ac mae e eisoes wedi sgorio tair gôl a chreu pedair y tymor hwn.

Bydd hi’n dalcen caled i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth yn ail hanner y tymor, wrth i’r rheolwr newydd Sabri Lamouchi frwydro i achub ei dîm rhag y gwymp.

Casnewydd

Yn y cyfamser, ymhellach i’r dwyrain yng Nghasnewydd, mae’r Alltudion wedi denu Calum Kavanagh ar fenthyg o Middlesbrough am weddill y tymor.

Bydd yr enw Kavanagh yn un cyfarwydd i gefnogwyr Caerdydd – mae’n fab i’r cyn-gapten Graham Kavanagh.

Roedd e eisoes wedi profi ei hun ar bob lefel cyn torri drwodd i’r gêm broffesiynol i oedolion yn 2020, ac fe enillodd e bedwar cap i dîm dan 17 oed Gweriniaeth Iwerddon.

Mae Charlie McNeill, sy’n 19 oed, hefyd wedi symud o Manchester United lle ymddangosodd e ar y fainc unwaith mewn gêm yn erbyn Real Sociedad yng Nghynghrair Europa.

Wrecsam

Ar y Cae Ras, cyhoeddodd Wrecsam eu bod nhw wedi denu’r amddiffynnwr canol Eoghan O’Connell o Charlton am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Mae disgwyl y bydd e ar gael i chwarae yn erbyn Altrincham dros y penwythnos.

Roedd e’n aelod o Academi Celtic yn yr Alban, gan ymddangos yn Uwch Gynghrair yr Alban yn 2014.

Chwaraeodd e 13 o weithiau i’r clwb, gan gynnwys pedair gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr, ac fe dreuliodd e gyfnodau ar fenthyg yn Oldham, Cork a Walsall.

Symudodd i Loegr yn 2017, gan chwarae i Bury a Rochdale cyn ymuno â Charlton haf diwethaf, ac mae e roedd chwarae 22 o weithiau iddyn nhw yn ystod hanner cynta’r tymor gan gynnwys rhediad da ei glwb yng Nghwpan EFL wrth iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf.