Yr Awstraliad Mike Hussey, sy’n cael ei adnabod wrth ei ffugenw ‘Mr Cricket’, yw prif hyfforddwr newydd tîm criced dynion y Tân Cymreig.

Bydd e wrth y llyw ar gyfer y Can Pelen y tymor hwn, ac mae’n olynu Gary Kirsten o Dde Affrica ar ôl i’r tîm orffen y gystadleuaeth y llynedd heb fuddugoliaeth.

Chwaraeodd e dros 300 o weithiau dros ei wlad, ac mae ganddo fe gryn brofiad fel chwaraewr o gemau undydd ym mhob cwr o’r byd.

Yn fwyaf diweddar, fe fu’n aelod o dîm hyfforddi Lloegr yn ystod cystadleuaeth ugain pelawd Cwpan y Byd.

Daw’r penodiad ar drothwy’r diwrnod olaf i ddenu chwaraewyr a chyn y Drafft ar Fawrth 2, lle mai’r Tân Cymreig fydd yn cael y dewis cyntaf o ran chwaraewyr.

“Dw i wir yn edrych ymlaen at gael dechrau yn y Tân Cymreig a chael bod yn rhan o’r Can Pelen,” meddai.

“O bell, mae’n edrych fel cystadleuaeth wych i fod yn rhan ohoni, un sy’n denu torfeydd mawr ac yn cael llawer o blant i ymddiddori yn y gamp.

“O’m rhan i, gobeithio y galla i helpu i gael symud pethau i’r cyfeiriad cywir ar y cae yng Nghaerdydd, a rhoi rhywbeth i’r cefnogwyr sydd wedi bod yn dod i wylio gael cyffroi yn ei gylch.”

Mae’r Tân Cymreig yn dweud eu bod nhw wrth eu boddau â’r penodiad.

“Prin yw’r bobol o amgylch y byd sy’n well ac sydd â’r arbenigedd a’r wybodaeth berthnasol o ran criced pêl wen i helpu i’n symud ni yn ein blaenau,” meddai Mark Wallace, Rheolwr Criced y Tân Cymreig.

“Mae’n destun cyffro mawr i’w gael e yma, ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio, gobeithio i ddod â llwyddiant ar y cae i’r tîm ac i’n cefnogwyr.”