Gweilch 12–7 Dreigiau Casnewydd Gwent
Roedd dau gais hanner cyntaf yn ddigon i’r Gweilch wrth iddynt drechu’r Dreigiau ar y Liberty yn y Guinness Pro12 brynhawn Gwener.
Croesodd Dan Evans a Hanno Dirksen yn y deugain munud agoriadol a rhy ychydig rhy hwyr oedd cais ail hanner Ed Jackson i’r ymwelwyr.
Dechreuodd y Gweilch yn dda ond di sgôr oedd hi o hyd hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i Sam Davies fethu dau gyfle cymharol hawdd at y pyst.
Gwnaeth y maswr yn iawn am hynny yn fuan wedyn, yn amseru ei bas yn berffaith i ryddhau Evans am y cais agoriadol.
Ychwanegodd Dirksen yr ail gais chwe munud cyn yr egwyl, yn plymio dros y llinell o un medr. Llwyddodd Davies gyda’r trosiad y tro hwnnw ac roedd y Gweilch ddeuddeg pwynt ar y blaen ar yr hanner.
Bu rhaid aros tan chwarter awr o ddiwedd yr wyth deg am bwyntiau cyntaf y Dreigiau wrth i Ed Jackson gael ei hyrddio drosodd gan weddill y blaenwyr.
Rhoddodd trosiad Jason Tovey yr ymwelwyr o fewn pum pwynt ond felly yr arhosodd hi tan y diwedd.
Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl y Pro12 wrth i’r Gweilch aros yn wythfed a’r Dreigiau’n ddegfed.
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Evans 23’, Hanno Dirksen 34’
Trosiad: Sam Davies 35’
.
Dreigiau
Cais: Ed Jackson 65’
Trosiad: Jason Tovey 65’