Shaun Edwards gyda Warren Gatland
Mae hyfforddwr amddiffyn tîm rygbi Cymru, Shaun Edwards, wedi dod a’r ansicrwydd ynglŷn â’i ddyfodol i ben wrth arwyddo cytundeb newydd sydd yn para pedair blynedd.
Fe fydd e felly’n parhau’n rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland wrth iddyn nhw ddechrau edrych tuag at Gwpan y Byd 2019 yn Siapan.
Roedd cytundeb presennol Edwards wedi dod i ben yn dilyn Cwpan y Byd eleni, ac roedd cryn ddyfalu wedi bod ynglŷn â’i gam nesaf.
Bu sôn fod Lloegr am geisio’i ddenu i fod yn rhan o’u staff hyfforddi nhw, ond mae wedi penderfynu aros gyda Chymru wrth iddyn nhw baratoi nawr at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2016.
‘Mwynhau’r awyrgylch’
Mae Shaun Edwards wedi bod yn rhan o staff cynorthwyol Warren Gatland ers 2008 ac wedi ennyn clod am ei waith amddiffynnol gyda’r tîm.
Yn y cyfnod hwnnw mae Cymru wedi ennill dwy Gamp Lawn ac un Bencampwriaeth Chwe Gwlad yn ogystal â chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2011 a rownd yr wyth olaf eleni.
“Dw i wrth fy modd mod i wedi arwyddo cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru a gallu parhau i fod yn rhan o awyrgylch dw i’n mwynhau gweithio ynddi,” meddai Edwards.
“Fel hyfforddwr mae’n wych gallu gweithio ochr yn ochr â grŵp o chwaraewyr sydd mor dalentog ac ymroddedig, ac i fod yn rhan o dîm hyfforddi mor gryf.”