Garry Monk
Mae’r chwilio’n parhau am olynydd i Garry Monk wedi i Abertawe gyhoeddi prynhawn ddydd Mercher eu bod nhw wedi rhoi’r sac i’w rheolwr.

Roedd perfformiadau gwael a rhediad siomedig o ddim ond un fuddugoliaeth mewn 11 gêm wedi selio tynged Monk, a gafodd ei ddiswyddo yn dilyn cyfnod o 22 mis fel rheolwr.

Yr hyfforddwr Alan Curtis sydd yn debygol o fod yn gyfrifol am y tîm wrth iddyn nhw baratoi i deithio i Man City y penwythnos yma, ond mae cadeirydd y clwb Huw Jenkins eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i benodi rhywun i’r swydd yn sydyn.

Pwy allai fod yn y ras i fod yn rheolwr nesaf yr Elyrch felly, a phwy sydd wedi awgrymu na fyddai ganddyn nhw ddiddordeb?

Brendan Rodgers

Y ffefryn clir dryw gydol yr wythnos, hyd yn oed cyn y cyhoeddiad swyddogol bod Monk yn gadael. Fe oedd y rheolwr arweiniodd Abertawe i’r Uwch Gynghrair cyn gadael am Lerpwl tymor yn ddiweddarach, ond fyddai cefnogwyr yr Elyrch am ei weld yn dychwelyd?

Ond bellach ddim yn edrych yn debygol mai fe fydd y nesaf wrth y llyw ar ôl iddo bellhau ei hun o’r swydd, ac mae’n bosib y byddai’n gweld dychwelyd i Abertawe mor fuan yn ei yrfa yn awgrym nad oedd ddigon da i’r lefel uwch.

Gus Poyet

Y ffefryn diweddaraf ymysg y bwcis, Poyet oedd cyn-reolwr Sunderland ac fe gadwodd y clwb o ogledd ddwyrain Lloegr yn yr Uwch Gynghrair dau dymor yn ôl.

Fe fyddai ei steil rheoli’n gweddu Abertawe ond mae Poyet, sydd yn rheoli AEK Athens ar hyn o bryd, wedi dweud bod y sôn ynglŷn ag e yn “nonsens” ar hyn o bryd.

David Moyes

Mae cyn-reolwr Real Sociedad, Manchester United ac Everton yn un arall sydd wedi cael ei grybwyll, ac fe fyddai’n sicr yn bâr saff o ddwylo os yw Abertawe yn poeni am ddisgyn o’r gynghrair.

Ond digon pragmatig ac amddiffynnol ar brydiau yw steil chwarae ei dimau ac mae’n bosib na fyddai’n gweddu yn Abertawe, ac fe allai fod yn ddrud i’w gyflogi hefyd.

Mark Warburton

Bellach gyda Rangers yn yr Alban, fe wnaeth Warburton wyrthiau gyda Brentford yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, ond mae’n ddibrofiad ar y lefel uchaf.

Dennis Bergkamp

Cyn-seren Arsenal sydd nawr yn is-reolwr gydag Ajax yn yr Iseldiroedd. Fe allai Bergkamp gael ei demtio â swydd Abertawe ac fe fyddai’n gweddu patrwm y clwb o benodi rheolwyr ifanc, uchelgeisiol sydd yn awyddus i chwarae pêl-droed deniadol.

Graeme Jones

Cyn is-reolwr Abertawe yng nghyfnod Roberto Martinez cyn ei ddilyn i Wigan, mae Jones bellach yn … is-reolwr i Martinez yn Everton. Mae’n un sydd yn nabod yr Elyrch yn well na’r rhan fwyaf, felly os yw’r clwb eisiau mynd am enw cyfarwydd arall fe allen nhw droi ato fe.

Eddie Howe

Un arall sydd wedi gwneud gwyrthiau yn y Bencampwriaeth gyda Bournemouth, mae’r clwb o dde Lloegr bellach yn yr Uwch Gynghrair ac yn dîm ymosodol cyffrous i’w gwylio – yr Abertawe newydd?

Mae’n bosib y byddai’n cymryd tipyn o berswâd i ddenu Howe i dde Cymru, ond mae cyn-ymosodwr Cymru a’r sylwebydd Iwan Roberts wedi awgrymu y dylai Abertawe brofi’r dyfroedd.