Taulupe Faletau (llun: PA)
Mae prif weithredwr y Dreigiau wedi dweud mai penderfyniad Taulupe Faletau i ymuno â Chaerfaddon yw’r “canlyniad gwaethaf posib i ni” yn dilyn y trafodaethau diweddar.

Roedd y Dreigiau wedi cael cynnig arian gan Gaerfaddon fis diwethaf er mwyn arwyddo’r wythwr, ond fe gafodd y trosglwyddiad hwnnw ei atal gan hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

Yn lle hynny mae Caerfaddon bellach wedi cyhoeddi y bydd Faletau yn symud i Loegr haf nesaf, ar ôl i’w gytundeb presennol â’r Dreigiau ddod i ben.

Mae hynny wedi cythruddo’i ranbarth presennol, oedd yn credu fod y chwaraewr ar fin arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru fyddai’n golygu ei fod yn aros gyda nhw.

‘Cytundeb deuol ar y bwrdd’

Yn dilyn penderfyniad Gatland i wrthod â chaniatáu i Faletau symud i Gaerfaddon yn syth, dywedodd y Dreigiau bod y chwaraewr wedi dweud ei fod yn awyddus i arwyddo cytundeb deuol.

Mynnodd y rhanbarth bod trafodaethau eisoes wedi cael eu cynnal rhwng y chwaraewr a’r Undeb yn ystod yr wythnos diwethaf ar y trywydd hwnnw, a bod hynny wedi eu harwain at feddwl y byddai Faletau felly’n aros yng Nghymru.

Daeth cyhoeddiad heddiw fel cryn syndod i’r Dreigiau felly, yn ôl eu prif weithredwr Stuart Davies, a awgrymodd fod Gwŷr Gwent wedi colli’r cyfle i elwa’n sylweddol o’i werthu i Gaerfaddon fis yn ôl.

Colli arian

“Ar ôl i’r trosglwyddiad arfaethedig i Gaerfaddon fethu yn gynharach y tymor yma, roedden ni wedi gobeithio’n fawr y byddai’r trafodaethau â’r Undeb yn llwyddiannus ac y bydden ni’n ei gadw ar gytundeb deuol,” meddai Stuart Davies wrth drafod Faletau.

“Oherwydd hynny, roedden ni’n fodlon rhoi help llaw yn ystod y broses o drafod mewn unrhyw fodd oedd ei angen.

“Dyma’r canlyniad gwaethaf posib i ni o ystyried popeth sydd wedi digwydd cyn hyn, ac mae’n ein gadael ni’n siomedig tu hwnt yn ogystal â bod mewn llawer gwaeth sefyllfa’n ariannol.”

Ychwanegodd y prif weithredwr nad oedd yn disgwyl i gyhoeddiad heddiw effeithio ar Faletau yn ystod gweddill ei gyfnod gyda’r Dreigiau.