Taulupe Faletau
Mae Caerfaddon wedi cytuno i arwyddo wythwr y Dreigiau Taulupe Faletau ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd y Dreigiau mewn datganiad eu bod yn “siomedig tu hwnt” â’r cyhoeddiad gan eu bod nhw’n credu ei fod am arwyddo cytundeb deuol ag Undeb Rygbi Cymru.

Cafodd y rhanbarth wybod gan asiant y chwaraewr heddiw y byddai’n gadael Casnewydd.

Undeb wedi ceisio’i gadw

Daw’r newyddion fis  yn unig ar ôl i Undeb Rygbi Cymru wrthod â rhoi caniatâd i’r chwaraewr symud rhwng y ddau glwb yn dilyn Cwpan y Byd.

Roedd Caerfaddon wedi gwneud cynnig ariannol i’r Dreigiau yn ddiweddar fyddai wedi golygu bod Faletau yn symud i Loegr yn syth.

Ond roedd angen caniatâd yr Undeb er mwyn i hynny ddigwydd, felly yn lle hynny fe fydd e nawr yn croesi’r ffin ar ddiwedd y tymor heb unrhyw ffi.

Ers hynny mae’n debyg bod yr Undeb wedi ceisio cynnig cytundeb deuol iddo, ond bod Faletau wedi penderfynu peidio ei dderbyn.

Tri Chymro

Fe chwaraeodd Faletau ym mhedwar o gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni ac mae gan y gŵr 25 oed 52 o gapiau rhyngwladol.

Bydd yn ymuno â dau o chwaraewyr rhyngwladol eraill Cymru, Rhys Priestland a Luke Charteris, yn ei glwb newydd y flwyddyn nesaf.

“Mae’r ffordd mae Caerfaddon yn chwarae’r gêm yn siwtio fy steil i, ac roedd hynny’n ffactor fawr wrth fy mherswadio i arwyddo,” meddai Faletau.

Ychwanegodd prif hyfforddwr Caerfaddon Mike Ford bod arwyddo wythwr Cymru yn “dystiolaeth” nad siarad gwag oedd dweud bod y clwb yn un uchelgeisiol.