Garry Monk
Mae cadeirydd Abertawe Huw Jenkins wedi mynnu na fydd cyhoeddiad yn cael ei wneud heddiw ynglŷn â dyfodol y rheolwr Garry Monk.

Cafodd cyfarfod bryd o gyfarwyddwyr y clwb ei chynnal neithiwr i drafod swydd Monk yn dilyn rhediad ble mae’r tîm dim ond wedi ennill un o’r 11 gêm ddiwethaf yn yr Uwch Gynghrair.

Er mai’r disgwyl oedd y byddai’r rheolwr yn gadael yn dilyn y cyfarfod hwnnw, roedd Monk dal yn y clwb heddiw ac wedi cymryd sesiwn ymarfer y tîm.

Ond fe ddywedodd Huw Jenkins heddiw y byddai “angen i rywbeth newid”, gan awgrymu nad oes gan y rheolwr 36 oed lawer o amser ar ôl.

‘Dim maddeuant’

“Rydyn ni yn y clwb yn teimlo fel bod angen i rywbeth newid er mwyn cyrraedd yn ôl i nodyn positif mor fuan â phosib a chyrraedd y lefel perfformiadau sydd ei angen er mwyn ennill gemau yn yr Uwch Gynghrair,” meddai Huw Jenkins heddiw.

“Mae’r gwahaniaeth rhwng diwedd Awst a’r sefyllfa rydym ni ynddi heddiw yn rhywbeth dydyn ni heb brofi gydag Abertawe o’r blaen, cymaint o newid ers i ni drechu Man United yn y gêm olaf ym mis Awst.

“Dw i’n meddwl bod hynny unwaith eto’n tanlinellu, os nad ydyn ni’n delio â phroblemau yn ddigon cynnar, nad oes maddeuant i’w gael yn yr Uwch Gynghrair.

“Os nad ydyn ni’n edrych ar ôl pob ongl a bod pawb yn canolbwyntio 100% bob wythnos, mae pethau’n gallu newid yn gyflym iawn.”