Dreigiau Casnewydd Gwent 22–6 Munster
Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth gwbl haeddiannol yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul wrth i Munster ymweld â Rodney Parade.
Roedd gêm gicio Dorian Jones yn effeithiol yn y chwarae agored ac at y pyst, a sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda chais hwyr Rynard Landman.
Hanner Cyntaf
Roedd y Dreigiau ar y blaen wedi dim ond dau funud diolch i gic gosb gynnar Dorian Jones a’r tîm cartref oedd y tîm gorau yn y chwarter agoriadol.
Unionodd Munster bethau serch hynny gyda thri phwynt o droed Rory Scannell a daeth y Gwyddelod fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner fynd yn ei flaen.
Gwastraffodd y cefnwr, Lucas Gonzalez Amorosino, gyfle euraidd wedi symudiad da gan olwyr yr ymwelwyr, ond ar y cyfan gwnaeth amddiffyn y Dreigiau yn dda.
Rhoddodd ail gic gosb Jones y Dreigiau yn ôl ar y blaen ac roedd angen tacl dda gan Simon Zebo i atal Carl Meyer rhag ymestyn y fantais gyda chais.
Er gwaethaf ymdrechion y Dreigiau, cyfartal oedd hi ar yr hanner diolch i dri phywnt arall o droed Scannell.
Ail Hanner
Rheolodd y Dreigiau y gêm yn dda trwy gydol yr ail hanner wrth i ran helaeth o’r chwarae ddigwydd yn hanner y Gwyddelod.
Rhoddodd hynny’r sylfaen i Jones drosi gôl adlam gynnar i roi’r Cymry yn ôl ar y blaen.
Methodd eilydd faswr Munster, Tyler Belyendaal, gyfle cymharol hawdd i unioni pethau cyn i Jones ymestyn mantais y Dreigiau gyda chic gosb arall toc wedi’r awr.
Methodd Jones gyda dwy ymgais am gôl adlam wedi hynny ond sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda chais hwyr Landman, y clo yn derbyn y bêl gan Taulupe Faletau cyn gorffen yn dda gyda ffugiad taclus.
Ychwanegodd Jones y trosiad cyn i cic gosb hwyr Jason Tovey roi’r eisin ar y gacen, 22-6 y sgôr terfynol a’r Dreigiau yn codi dros y Gleision i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Dreigiau
Cais: Rynard Landman 78’
Trosiad: Dorian Jones 79’
Ciciau Cosb: Dorian Jones 2’, 31’, 65’, Jason Tovey 80’
Gôl Adlam: Dorian Jones 44’
.
Munster
Ciciau Cosb: Rory Scannell 14’, 39’