Zebre 22–39 Gweilch
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul wrth iddynt ymweld â’r Stadio Sergio Lanfarchi i wynebu Zebre.
Sgoriodd Justin Tipuric ddau gais wrth i’r rhanbarth o Gymru groesi am bump i gyd mewn buddugoliath dda.
Dechreuodd Zebre yn dda gyda’r asgellwr, Kayle Van Zyl, yn croesi am y cais cyntaf wedi dim ond pedwar munud.
Roedd y Gweilch yn gyfartal o fewn deg munud serch hynny diolch i’w gwibiwr hwythau ar yr asgell, Jeff Hassler.
Rhoddodd cic gosb Sam Davies yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen cyn i ddau gais mewn dau funud agor dipyn o fwlch. Croesodd Eli Walker i ddechrau cyn i Tipuric dirio trydydd cais y Gweilch.
Roedd y Gweilch bymtheg pwynt ar y blaen wedi trosiad Davies ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Eidalwyr cyn yr egwyl wrth i Marcello Violi groesi am gais gyda symudiad olaf yr hanner.
Cyfnewidiodd Davies a Carlo Canna gic gosb yr un yn neg munud agoriadol yr ail hanner cyn i’r Gweilch fynd â’r gêm o afael Zebre gyda dau gais cyflym.
Sicrhaodd Tipuric y pwynt bonws gyda’i ail gais ef a phedwerydd ei dîm cyn i Jonathan Spratt groesi am y pumed ar yr awr.
Roedd digon o amser am gais cysur hwyr i Zebre wrth i Van Zyl groesi am ei ail ond nid oedd unrhyw amheuaeth am y canlyniad.
22-39 y sgôr terfynol ond y Gweilch yn aros yn wythfed yn nhabl y Pro12.
.
Zebre
Ceisiau: Kayle Van Zyl 4’, 74’, Marcello Violi 40’
Trosiadau: Marcello Violi 5’, Edoardo Padovani 75’
Cic Gosb: Carlo Canna 44’
.
Gweilch
Ceisiau: Jeff Hassler 13’, Eli Walker 34’, Justin Tipuric 36’, 56’, Jonathan Spratt 60’
Trosiadau: Sam Davies 14’, 37’, 57’, 61’
Ciciau Cosb: Sam Davies 29’, 46’