Treviso 20–22 Scarlets
Roedd angen cic gosb hwyr o droed Steve Shingler ar y Scarlets brynhawn Sadwrn wrth iddynt drechu Treviso yn y Stadio Monigo.
Er mai cael a chael oedd hi mewn gêm agos mae Bois y Sosban yn codi i frig y Guinness Pro12 gyda’r fuddugoliaeth.
Dechreuodd Treviso yn dda gyda’r canolwr, Sam Christie, yn croesi am gais wedi dim ond pum munud.
Ychwaneogodd Jayden Hayward y trosiad ond nid oedd yr Eidalwyr ar y blaen yn hir cyn i gais Morgan Allen a throsiad Aled Thomas unioni’r sgôr.
Aeth Bois y Soaban ar y blaen am y tro cyntaf chwarter awr cyn yr egwyl pan groesodd DTH van der Merwe yn y gornel wedi pas dda gan y prop, Rob Evans.
Dau bwynt yn unig oedd ynddi ar yr egwyl serch hynny wedi i Hayward lwyddo gyda chic gosb yn dilyn cyfnod da o bywso gan yr Eidalwyr.
Ymestynnodd y Scarlets eu mantais wedi deg munud o’r ail hanner pan groesodd Allen am ei ail gais ef a thrydydd ei dîm wedi iddynt ddwyn pêl Treviso mewn sgrym.
Rhoddodd trosiad Thomas y Cymry naw pwynt ar y blaen ond wnaeth Treviso ddim rhoi’r ffidl yn y to. Manteisiodd Edoardo Gori ar gamgymeriad gan yr ymwelwyr i groesi am ail gais yr Eidalwyr cyn i gais Christie yn y gornel roi’r tîm cartref bwynt ar y blaen gydag wyth munud i fynd.
Dyfarnwyd cic gosb ddadleuol i’r Scarlets yn fuan wedyn a chafodd Shingler gyfle i’w hennill hi i’w dîm. Roedd gan yr eilydd faswr ddigon i’w wneud ond llwyddodd gyda’r gic gosb o 40 medr i gipio’r fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets dros Connacht i frig y Guinness Pro12.
.
Treviso
Ceisiau: Sam Christie 5’, 72’, Edoardo Gori 58’
Trosiad: Jayden Hayward 6’
Cic Gosb: Jayden Hayward 34’
.
Scarlets
Ceisiau: Morgan Allen 10’, 51’, DTH van der Merwe 26’
Trosiadau: Aled Thomas 11’, 52’
Cic Gosb: Steve Shingler 76’