Gleision 20–16 Connacht

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth dda ar Barc yr Arfau nos Wener yn erbyn Connacht, y tîm sydd ar frig y Guinness Pro12.

Er mai dim ond un waith yr oedd y Cymry wedi ennill yn y gynghrair y tymor hwn cyn y gêm hon, roedd ceisiau Vosawai a James, a deg pwynt o droed Patchell yn ddigon i drechu’r Gwyddelod.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gleision yn dda ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chais Manoa Vosawai wedi chwe munud, yr wythwr yn sgorio wedi sgarmes symudol effeithiol.

Rhoddodd trosiad Rhys Patchell y tîm cartref saith pwynt ar y blaen ond yn ôl y daeth Connacht. Arweiniodd eu cyfnod cyntaf o bwyso at gais i’r mewnwr, Ian Porter, wedi dadlwythiad da Matt Healy.

Methodd Porter a throsi ei gais ei hun ond roedd y Gwyddelod ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r hanner diolch i ail gais. Yr wythwr, Eoin McKeon, oedd y sgoriwr y tro hwn wrth i sgarmes symudol yr ymwelwyr groesi’n rhy hawdd o lawer.

Unionodd Patchell y sgôr yn dilyn sgrym gref ond ildiodd y Gleision gic gosb yn syth o’r ail ddechrau a Connacht oedd ar y blaen ar yr egwyl, 10-13 y sgôr wedi cic Porter.

Ail Hanner

Roedd y gwynt o blaid y Gleision yn yr ail hanner ond nid oedd llawer o arwydd o hynny pan fethodd Patchell gic gosb gynnar yn syth o flaen y pyst.

Efallai nad oedd fawr o syndod gweld y Gleision yn mynd am y gornel gyda’r gic gosb nesaf a thalodd y penderfyniad ar ei ganfed wrth i’r lein arwain at gais yn y gornel i Tom James.

Ychwanegodd Patchell y trosiad cyn llwyddo gyda mynydd o gic gosb o’r llinell hanner i roi’r Cymry saith pwynt ar y blaen.  

Yn ôl y daeth Connacht serch hynny gyda thri phwynt o droed Jack Carty yn creu diweddglo diddorol i’r ornest.

Cafodd Connacht gyfnodau da wedi hynny ond daliodd amddiffyn y Gleision yn ddewr i sicrhau buddugoliaeth dda.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision dros y Dreigiau i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12, ac hefyd yn rhoi’r cyfle i’r Scarlets godi yn ôl dros Connacht i’r brig wrth iddynt herio Zebre ddydd Sul.

.

Gleision

Ceisiau: Manoa Vosawai 6’, Tom James 55’

Trosiadau: Rhys Patchell 7’, 56’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 26’, 64’

.

Connahct

Ceisiau: Ian Porter 13’, Eoin McKeon 22’

Ciciau Cosb: Ian Porter 27’, Jack Carty 68’