Mae maswr Cymru Dan Biggar wedi ymestyn ei gytundeb deuol â’i ranbarth ac Undeb Rygbi Cymru allai redeg nes Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

Roedd Biggar eisoes yn un o’r 17 chwaraewr sydd eisoes ar gytundeb deuol rhwng un o’r rhanbarthau ac URC, ond fe yw’r cyntaf i ailarwyddo am gyfnod hirach.

Cafodd y maswr 26 oed ei enwi ar restr fer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru 2015 ar ôl ei berfformiadau disglair yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni.

Mae ganddo eisoes 39 cap dros ei wlad ac mae wedi sgorio mwy o bwyntiau dros y Gweilch na’r un chwaraewr arall yn hanes y rhanbarth.

‘Dilynwch fy esiampl’

Gyda chytundebau deuol rhai o’r chwaraewyr yn dod i ben y flwyddyn nesaf ceisiodd maswr Cymru annog rhagor i ddilyn ei esiampl.

“Fe wnaeth hi gymryd ychydig o amser i gyrraedd y pwynt ble roedd pawb yn hapus â’r cytundeb, ond dw i’n falch o fod wedi sortio’r cwpl o flynyddoedd nesaf a gallu chwarae dros Gymru a bob wythnos i’r Gweilch,” meddai Biggar.

“Gobeithio y bydd eraill yn gwneud yr un peth ac y gallwn ni barhau i gryfhau safon y chwaraewyr sydd gennym ni yng Nghymru.”

Ar hyn o bryd mae 17 chwaraewr ar gytundebau deuol – Alun Wyn Jones, Dan Biggar, Rhys Webb, Dan Lydiate, Scott Baldwin, James King, Dan Baker, Rory Thornton (Gweilch), Scott Williams, Jake Ball, Samson Lee, Rhodri Jones, Jonathan Davies (Scarlets), Tyler Morgan, Hallam Amos (Dreigiau), Sam Warbuton a Gareth Anscombe (Gleision).