Mae’r Scarlets wedi gwneud tri newid i’w tîm ar gyfer yr ornest yn erbyn Treviso wrth iddyn nhw geisio cadw’r pwysau ar Connacht ar frig y tabl.

Mae Bois y Sosban wedi ennill saith o’u wyth gêm hyd yn hyn ac yn ail yn y tabl y tu ôl i’r rhanbarth i Iwerddon.

Bydd John Barclay yn symud i safle’r blaenasgellwr yn absenoldeb James Davies, sydd wedi’i anafu, gyda Morgan Allen yn cymryd y crys rhif 8.

Fe fydd Jake Ball hefyd yn cymryd lle Maselino Paulino yn yr ail reng tra bod Michael Tagicakibau yn dychwelyd ar yr asgell.

“Mae hon yn mynd i fod yn gêm letchwith, mae’n rhaid i ni ennill os ydyn ni eisiau aros ble rydyn ni ac aros yn y ras,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac.

Tîm y Scarlets: Rob Evans, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, John Barclay (capt), Morgan Allen; Aled Davies Aled Thomas DTH van der Merwe Hadleigh Parkes Regan King Michael Tagicakibau Steff Evans

Eilyddion: Kirby Myhill, Dylan Evans, Rhodri Jones, Tom Price, Maselino Paulino, Rhodri Williams, Steve Shingler, Gareth Owen