Mae’r Gweilch wedi gwneud wyth newid i’w tîm i herio Zebre dydd Sadwrn gyda chwaraewyr Cymru Dan Biggar ac Alun Wyn Jones ymysg y rheiny sydd yn symud i’r fainc.
Bydd yr asgellwr Jeff Hassler, y canolwr Josh Matavesi, y maswr Sam Davies a’r mewnwr Tom Habberfield i gyd yn dechrau yn erbyn yr Eidalwyr.
Mae’r prop Paul James, y ddau glo Lloyd Ashley a Tyler Ardron a’r blaenasgellwr James King hefyd wedi cael eu hychwanegu i’r tîm, gyda Dan Lydiate yn un o’r rheiny sydd ddim ar gael oherwydd anaf.
Mynnod prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy y byddai’n rhaid i’w dîm fod ar eu gorau i ennill y gêm fodd bynnag er bod eu gwrthwynebwyr yn cael eu hystyried fel y gwanaf yn y gynghrair.
“Mae ganddyn nhw record ardderchog yn eu lle nhw, ac yn dîm peryglus iawn, felly os ydyn ni un neu ddau bwynt canran yn is na’n safon arferol wnawn ni ddim cael beth rydyn ni eisiau o’r gêm,” mynnodd Tandy.
“Mae ein dechrau araf yn y Pro12 yn golygu nad oes lle i ni wneud camgymeriadau.”
Tîm y Gweilch: Paul James, Sam Parry, Dmitri Arhip, Lloyd Ashley, Tyler Ardron, James King, Justin Tipuric (capt), Dan Baker; Tom Habberfield Sam Davies Eli Walker Josh Matavesi Jonathan Spratt Jeff Hassler Dan Evans
Eilyddion: Scott Otten, Nicky Smith, Ma’afu Fia, Alun Wyn Jones, Olly Cracknell, Martin Roberts, Dan Biggar, Hanno Dirksen