Thomas Rhys Thomas nôl i'r Dreigiau
Fe fydd capten y Dreigiau Thomas Rhys Thomas yn dychwelyd i’r tîm ar ôl gwella o anaf i’w droed ar gyfer eu gornest yn erbyn Munster dydd Sul.

Dyw’r bachwr heb chwarae ers cael anaf yn erbyn Zebre ym mis Medi ond mae’n un o chwe newid sydd wedi cael ei wneud i’r Dreigiau gan y cyfarwyddwr rygbi Lyn Jones.

Bydd Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau i gyd yn dechrau wrth i’r rheng ôl gyfan gael ei newid, tra bod Sarel Pretorius a Brok Harris hefyd yn ymuno â’r blaenwyr.

“Mae’n rhyddhad mawr cael ‘TRT’ nôl,” cyfaddefodd Lyn Jones wrth i’r Dreigiau geisio taro nôl ar ôl eu colled yn erbyn Caeredin yr wythnos diwethaf.

“Mae e’n gapten oherwydd ei arweiniad a’i aeddfedrwydd. Rydyn ni wedi methu’r nodweddion yna’n ddifrifol yn y tîm.”

Tîm y Dreigiau: Boris Stankovich, Thomas Rhys Thomas (capt), Brok Harris, Matthew Screech, Rynard Landman, Lewis Evans, Nic Cudd, Taulupe Faletau; Sarel Pretorius, Dorian Jones, Ashton Hewitt, Adam Warren, Adam Hughes, Tom Prydie, Carl Meyer

Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Lloyd Fairbrother, Cory Hill, Ed Jackson, Charlie Davies, Jason Tovey, Ross Wardle