Mae George North wedi arwyddo cytundeb newydd i barhau i chwarae i Northampton y tymor nesaf.
Roedd ei hen gytundeb gyda’r clwb o Loegr yn dod i ben ddiwedd y tymor hwn, a son y gallai Undeb Rygbi Cymru ac un o ranbarthau’r wlad gynnig cytundeb deuol i’w hudo nôl dros Glawdd Offa.
Ond mae Northampton wedi cyhoeddi bod yr asgellwr rhyngwladol wedi arwyddo i barhau i chwarae iddyn nhw, er nad yw union fanylion y cytundeb yn gyhoeddus.
Mae North wedi dweud ei fod “ar ben ei ddigon” o gael ymestyn ei gyfnod gyda Northampton.
“Bu’n bleser chwarae i’r clwb gwych yma a’i gefnogwyr, sy’n rhai o’r goreuon yn y gamp.”
Hyd yma mae’r cawr o Ynys Môn wedi sgorio 23 cais mewn 55 gêm dros Gymru.
Uchafbwynt cyn-chwaraewr y Scarlets gyda Northampton hyd yma oedd ennill Uwch Gynghrair Lloegr y llynedd.
“Cymeriad gwych”
Mae cyfarwyddwr rygbi Northampton wedi croesawu’r newyddion am gytundeb newydd George North.
“Rydym wrth ein boddau bod George wedi penderfynu aros yma,” meddai Jim Mallinder. “Mae’n chwaraewr o’r safon uchaf, rhywbeth y mae wedi ei brofi dro ar ôl tro yma.
“Nid yn unig ei fod yn chwaraewr o’r radd flaenaf, ond mae’n gymeriad gwych i’w gael o gwmpas y clwb.”
Yn gynharach yr wythnos hon daeth y cyhoeddiad bod clo Cymru Luke Charteris am chwarae i Gaerfaddon tymor nesaf.