Fe gafodd y Scarlets gweir go iawn y prynhawn yma wrth i Munster sgorio chwe cais yn eu herbyn yn Llanelli.

Er eu bod yn brin o nifer o’u prif chwaraewyr, aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar gyda chais gan Jack O’Sullivan, cyn i Liam Coombes ychwanegu ail gais wedi ychydig dros 20 munud.

Ond fe darodd y Cymry ’nôl, gyda chic gan y maswr Sam Costelow yn creu cais i Johnny McNicholl.

Bonws

Cyn hanner amser daeth trydydd cais i’r Gwyddelod gan Calvin Nash er mwyn ei gwneud yn 13-22 ar yr egwyl.

Fe wnaeth y pwysau gan Munster barhau yn yr ail hanner, wrth i gais Jeremy Loughman sicrhau eu pwynt bonws cyn i Coombes ychwanegu ei ail gais.

Ychwanegodd Chris Cloete chweched cais i’r ymwelwyr er mwyn selio buddugoliaeth o 30 pwynt iddyn nhw a’i gwneud yn brynhawn o embaras i’r Scarlets.

Dioddefodd y Scarlets ergyd ychwanegol pan fu’n rhaid i’r canolwr Scott Williams adael y cae gyda anaf gyda Johnny Williams yn llenwi’r bwlch.