Collodd Caerdydd o 29-19 wrth i Deirw De’r Affrig ennill eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth ar Barc yr Arfau.

Sgoriodd y Teirw ddau gais drwy’r rhif wyth Elrigh Louw a’r asgellwr Madosh Tambwe, tra ciciodd Chris Smith 19 o bwyntiau.

Matthew Screech groesodd am unig gais Caerdydd o’r gêm, gyda Rhys Priestland yn cyfrannu 14 pwynt wrth gicio.

Gadawodd chwaraewr rhyngwladol Cymru Josh Navidi y cae ar ôl dim ond wyth munud gyda anaf cas i’w fraich.

Ceisiodd Navidi fynd i’r afael â’r enfawr Jacques Du Plessis ond cafodd ei fraich ei ddal yn y lle anghywir ac fe’i gorfodwyd oddi ar y cae mewn poen sylweddol o flaen hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

Mantais

Dechreuodd Caerdydd yn gryf a dylai fod Owen Lane wedi cael cyfle i sgorio cais cyn i Rhys Priestland hawlio pwyntiau cyntaf y gêm drwy gicio.

Yna anfonwyd Seb Davies i’r gell cosb.

Ond nid oedd hynny yn atal tîm Dai Young, a ddyblodd eu mantais drwy gic gan Priestland cyn i Screech groesi am gais.

Sgoriodd Smith i’r Teirw gyda chic cosb lwyddiannus o 35 metr, gan adael Caerdydd yn gyffyrddus ar y blaen o 16-3 ar yr egwyl.

Yna fe ddechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn gryf gyda chais wedi dim ond tri munud gan Louw.

Yna cymerodd y Teitrw yr awenau am y tro cyntaf yn y gêm pan gafodd pas rhydd o Hallam Amos ei dwyn gan Tambwe.

Rhedodd yr asgellwr heibio i Priestland i sgorio cais a droswyd gan Smith cyn iddyn nhw ymestyn y fantais i 10 pwynt gyda dwy gic cosb.

Llwyddodd Priestland gyda chosb i roi rhywfaint o obaith i Gaerdydd, ond fe orffennodd y Teirw yn gryf, gyda Smith yn sicrhau eu buddugoliaeth gyda thri phwynt arall.