Roedd Connacht yn anghyson eto wrth i’r Dreigiau eu trechu 35-22 am eu buddugoliaeth gyntaf yn Galway ers mis Mai 2004.

Er i gefnwr y Dreigiau Jonah Holmes sgorio unig gais yr hanner cyntaf, pedwar cosb gan Jack Carty roddodd Connacht 12-8 ar y blaen ar yr egwyl.

Ond roedd y tîm o Went yn glinigol ar ôl hynny, gyda Jordan Williams, Mesake Doge a Holmes unwaith eto i gyd yn croesi.

Fe wnaeth Sam Davies sgorio 15 pwynt.

Tawelodd

Atebodd Connacht gyda cheisiau gan Mack Hansen a Conor Fitzgerald.

Tawelodd y Dreigiau’r dorf gartref gyda thri chais mewn 18 munud yn yr ail hanner.

Curodd y cefnwr Williams dri amddiffynnwr am gais gwych wedi 47 munud, wedi’i drosi gan Davies.

Sgoriodd y prop o Wlad Ffiji Doge ac yn sydyn, cafodd Connacht eu hunain ar ei hol hi o 22-12.

Fe wnaeth y Gwyddelod daro ’nôl gyda chais gan Mack Hansen cyn i Holmes sgorio ei ail gais i adeiladu mantais y Dreigiau i 15.

Er i gais Conor Fitzgerald ostwng y fantais unwaith eto, roedd yr ymwelwyr eisoes wedi gwneud digon i sicrhau’r fuddugoliaeth.