Mae Jonny Clayton wedi ennill Grand Prix Dartiau’r Byd am y tro cyntaf, gan drechu ei gyd-Gymro Gerwyn Price yn y ffeinal yng Nghaerlŷr neithiwr (nos Sadwrn).

Roedd Clayton wedi trechu Danny Noppert o 4-1 er mwyn cyrraedd y rownd derfynol, tra bod Price wedi ennill o 4-2 yn erbyn Stephen Bunting.

Fe wnaeth Clayton ddechrau’n wych gan ennill y tair set gyntaf.

Fe darodd Price ’nôl yn y bedwaredd set ond aeth Clayton ymlaen i ennill y ddwy set nesaf a sicrhau buddugoliaeth wych o 5-1.

Plastrwr

Mae ennill y bencampwriaeth, a’r wobr ariannol o £110,000, yn coroni blwyddyn wych i’r gŵr o Bontyberem sy’n cael ei adnabod fel y ‘Ferret’ wedi ei ddyddiau’n chwarae rygbi fel mewnwr.

Dyma’r trydydd tlws iddo ennill eleni, ac mae’r fuddugoliaeth yn golygu y bydd yn codi i’r seithfed safle yn netholion y byd – y tro cyntaf iddo fod yn y 10 uchaf.

Mae o yn gweithio fel plastrwr gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.

Wedi ei fuddugoliaeth, dywedodd wrth BBC Radio Cymru: “Ni’n ffrindie mawr a ni’n dau yn mynd mas i chwarae darts. I ‘whare yn erbyn Gerwyn – mae’n ffantastig.”