Luke Charteris
Mae Caerfaddon wedi cadarnhau y bydd clo Cymru Luke Charteris yn ymuno â nhw’r tymor nesaf.
Bydd y blaenwr 32 oed yn gadael Ffrainc ar ddiwedd y tymor ar ôl pedair blynedd yn chwarae yno, gyntaf i Perpignan ac yna i Racing Metro.
Dywedodd Charteris bod y Gleision wedi mynegi diddordeb ynddo hefyd ond ei fod eisoes wedi cytuno i arwyddo dros Gaerfaddon erbyn i’r cynnig hwnnw gael ei wneud.
“Mae talent wych yn y garfan a dw i methu aros i fynd draw yno a dechrau,” meddai’r clo heddiw wrth drafod ei dîm newydd.
Cynrychioli Cymru
Roedd Charteris yn rhan o garfan Cymru yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd eleni, ac mae ganddo 62 cap dros ei wlad.
Ag yntau’n un o aelodau hŷn y garfan chafodd e ddim cynnig cytundeb deuol, ond fe ddywedodd bod hynny’n golygu na fyddai cyfyngiadau arno dros gynrychioli Cymru er ei fod yn chwarae i glwb o Loegr.
“Mae gen i sawl blwyddyn ar ôl i chwarae rygbi rhyngwladol ac roeddwn i eisiau rhoi’r cyfle gorau i mi fy hun i wneud hynny,” ychwanegodd Charteris.