Gareth Bale yn dangos ei rwystredigaeth yn ystod El Clasico (llun: AP/Daniel Ochoa de Olza)
Mae Gareth Bale wedi cael sawl noson gofiadwy yng nghrys gwyn Real Madrid ers symud yno yn 2013, ond fe fydd nos Sadwrn yn sicr yn aros yn y cof am y rhesymau anghywir.
Collodd Los Blancos i’w gelynion pennaf Barcelona yn y modd gwaethaf posib, gan gael cweir o 4-0 gartref a llithro’n bellach y tu ôl i’r Catalaniaid ar frig y gynghrair yn Sbaen.
Nid Bale berfformiodd waethaf o dîm Madrid o bell ffordd, a hynny yn ei gêm gyntaf nôl ers gwella o anaf, ond fe fydd angen iddo fo a’i dîm wella’n sydyn cyn iddyn nhw wynebu Shakhtar Donetsk yn Ewrop yr wythnos hon.
Yn yr Uwch Gynghrair roedd hi hefyd yn benwythnos i’w anghofio i Paul Dummett a Newcastle wrth iddyn nhw golli 3-0 gartref i Gaerlŷr, ddaeth ag Andy King oddi ar y fainc gyda’r gêm eisoes wedi’i hennill.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerlŷr bellach ar frig y gynghrair, tra bod Newcastle un yn uwch na safleoedd y cwymp.
Cafodd amddiffyn Abertawe oedd yn cynnwys Ashley Williams a Neil Taylor brynhawn siomedig arall wrth iddyn nhw ildio dwy yn ystod eu gêm gyfartal â Bournemouth, ddaeth a Shaun MacDonald oddi ar y fainc yn y munud olaf.
Gydag Aaron Ramsey dal allan ag anaf fe gollodd Arsenal o 2-1 yn West Brom, er bod James Chester ar y fainc unwaith eto i’r tîm cartref.
Gwylio o’r fainc hefyd oedd Joe Allen wrth i Lerpwl sicrhau eu buddugoliaeth orau o’r tymor gyda chrasfa o 4-1 yn erbyn Man City.
Y Bencampwriaeth
Collodd Nottingham Forest 2-1 yn y munud olaf yn erbyn Brentford, gyda David Vaughan yn chwarae gêm lawn a Jonny Williams yn dod oddi ar y fainc.
Gorffennodd hi’n 2-2 rhwng Ipswich a Wolves gyda Dave Edwards yn cael cwpl o gyfleoedd i’r ymwelwyr cyn cael ei eilyddio ar ôl 65 munud.
Cipiodd Blackburn fuddugoliaeth o 2-1 oddi cartref yn Preston ac fe chwaraeodd Adam Henley 90 munud, ond fe aeth Tom Lawrence oddi ar y cae ar ôl rhyw hanner awr gydag anaf.
Yng ngemau eraill y Bencampwriaeth fe chwaraeodd Chris Gunter, Emyr Huws, Kieron Freeman a Morgan Fox gemau llawn i’w clybiau.
Daeth Simon Church oddi ar y fainc yn y munudau olaf i MK Dons ac roedd Declan John ar y fainc i Gaerdydd, ond fe fethodd Sam Vokes, Hal Robson-Kanu, David Cotterill a Jazz Richards gemau eu clybiau ag anaf.
Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe gollodd Inverness o 2-1 yn erbyn Partick Thistle, gydag Owain Fôn Williams yn gwneud sawl arbediad da ond yna’n cael ei dwyllo gan groesiad ar gyfer y gôl fuddugol.
Ac yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw ei nawfed gôl o’r tymor a’i gyntaf ers pum gêm wrth i Walsall gael gêm gyfartal 1-1 â Sheffield United.
Seren yr wythnos – Tom Bradshaw. Sawl un dal wedi anafu neu ar y fainc, ond da gweld Bradshaw’n canfod cefn y rhwyd unwaith eto.
Siom yr wythnos – Gareth Bale. Fydd chwaraewr drytaf y byd ddim yn profi llawer o ganlyniadau gwaeth na nos Sadwrn gyda Real Madrid.