Scarlets 12–29 Racing 92
Roedd Racing 92 rhy dda o lawer i Fois y Sosban ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.
Roedd y gêm yng ngrŵp 3 Cwpan Pencampwyr Ewrop fwy neu lai drosodd erbyn hanner amser wrth i’r Ffrancwyr groesi am bedwar cais yn erbyn y Scarlets cyn yr egwyl.
Daeth y cyntaf i’r mewnwr, Maxime Machenaud, wedi dim ond saith munud, a’r ail ddeg munud yn ddiweddarach wrth i’r Kiwi, Joe Rokocoko, wibio drosodd.
Ymunodd yr wythwr, Chris Masoe, yn yr hwyl wedi hynny wrth groesi am y trydydd cyn i gais Marc Andreu roi’r gêm o afael y Scarlets a sicrhau’r pwynt bonws i Racing.
Roedd Bois y Sosban fymryn yn well wedi’r egwyl a daeth cais cysur i Aled Thomas toc cyn yr awr.
Cafwyd mymryn mwy o gysur pan groesodd Lewis Rawlins am gais arall i’r tîm cartref ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi, buddugoliaeth gyfforddus i’r Ffrancwyr.
.
Scarlets
Ceisiau: Aled Thomas 57’, Lewis Rawlins 66’
Trosiad: Aled Thomas 67’
.
Racing 92
Ceisiau: Maxime Machenaud 7’, Joe Rokokcoko 17’, Chris Masoe 27’, Marc Andreu 38’
Trosiadau: Maxime Machenaud 18’, 28’, 40’
Cic Gosb: Johannes Goosen 69’
Cerdyn Melyn: Ben Tameifuna 65’