Cei Connah 2–1 Y Bala
Cafodd Gap Cei Connah fuddugoliaeth haeddiannol wrth i’r Bala ymweld â Stadiwm Glannau Dyfrdwy yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Un gôl yr un oedd hi cyn i beniad Les Davies ennill y gêm i’r tîm cartref ddeunaw munud o’r diwedd.
Cei Connah heb os oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ond bu bron i’r Bala fynd ar y blaen pan darodd cic rydd Ryan Valentine y trawst.
Cei Connah yn hytrach a gafodd y gôl gyntaf gyda Jamie Crowther yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae. Llwyddodd Ashley Morris i arbed cynnig gwreiddiol Les Davies ond gwyrodd y bêl yn syth i lwybr Crowther am gôl syml i’r chwaraewr canol cae.
Parhau i reoli a wnaeth Cei Connah wedi hynny a methodd Nick Rushton a George Horan gyfleoedd da i ddyblu’r fantais cyn yr egwyl.
Roedd y Bala’n well wedi’r egwyl ac roeddynt yn gyfartal wedi llai na deg munud. Peniodd Dave Artell gic rydd yn ôl ar draws ceg y gôl a thasg hawdd oedd rhwydo i Lee Hunt.
Cafodd yr ymwelwyr ddeg munud da wedi hynny ond Cei Connah orffennodd orau. Bu bron i Horan eu rhoi yn ôl ar y blaen pan wyrodd cic gôl Morris oddi ar ei gefn ac yn erbyn y trawst!
Newidiodd y digwyddiad hwnnw fomentwm y gêm a doedd fawr o syndod gweld Les Davies yn torri’r trap camsefyll i benio’i dîm yn ôl ar y blaen ychydig dros chwarter awr o’r diwedd.
Doedd y Bala ddim yn haeddu dim byd o’r gêm ond bu bron iddynt gipio pwynt hwyr pan darodd ergyd Andy Stephens yn erbyn y trawst gyda help llaw John Danby.
Mae’r canlyniad yn codi Cei Connah i’r chweched safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, bedwar pwynt yn unig y tu ôl i’r Bala sydd yn drydydd.
.
Cei Connah
Tîm: Danby, Baynes, Linwood, Horan, Smith, Crowther, Morris (McIntyre 66’), Harrison, Miller (Ruane 66’), Rushton (Rimmer 89’), Davies
Goliau: Crowther 19’, Davies 74’
Cardiau Melyn: Linwood, Crowther, Morris, Baynes
.
Y Bala
Tîm: Morris, Irving, Artell, Stephens, Valentine, Murtagh, Pearson (Hayes 87’), Smith, Jones (Connolly 75’), Sheridan, Hunt
Gôl: Lee Hunt 54’
Cerdyn Melyn: Stephens
.
Torf: 173