Castres 32–29 Dreigiau Casnewydd Gwent
Colli fu hanes y Dreigiau mewn gêm glos yn y Stade Pierre Antoine brynhawn Sadwrn.
Teithiodd y rhanbarth o Gymru i Ffrainc i wynebu Castres yng Nghwpan Her Ewrop ac er ei bod hi’n agos trwy gydol yr wyth deg munud, y tîm cartref aeth â hi yn y diwedd.
Castres oedd y tîm cryfaf yn yr hanner cyntaf wrth i geisiau Daniel Kirkpatrick a Geoffrey Palis eu rhoi ar y blaen.
Arhosodd y Dreigiau yn y gêm serch hynny diolch i dair cic gosb lwyddiannus o droed Dorian Jones, 14-9 y sgôr wedi deugain munud.
Aeth y Cymry ar y blaen am y tro cyntaf yn gynnar yn yr ail gyfnod pan drosodd Jones gais Carl Meyer.
Rhoddodd cic gosb Palis Castres yn ôl ar y blaen, ond gyda’r tîm cartref i lawr i bedwar dyn ar ddeg fe ychwanegodd Jones gic gosb arall a chroesodd Elliot Dee am ail gais yr ymwelwyr.
Rhoddodd trosiad Jones y Dreigiau naw pwynt ar y blaen gyda chwarter y gêm i fynd.
Ond gorffennodd Castres y gêm yn gryf, a sicrhaodd ceisiau Thomas Combezou ac Alex Tulou, nid yn unig y fuddugoliaeth, ond pwynt bonws i’r Ffrancwyr.
Roedd pwynt bonws i’r Dreigiau hefyd wrth iddynt orffen o fewn saith pwynt i’w gwrthwynebwyr, 32-19 y sgôr terfynol.
Mae’r Dreigiau yn aros ar frig grŵp 2 er gwaethaf y canlyniad gan na wnaeth Castres a Pau chwarae’r wythnos ddiwethaf.
.
Castres
Ceisiau: Daniel Kirkpatrick 14’, Geoffrey Palis 25’, Thomas Combezou 61’, Alex Tulou 68’
Trosiadau: Geoffrey Palis 15’, 26’, 62’
Ciciau Cosb: Geoffrey Palis 50’, 65′
Cardiau Melyn: Alexandre Bias 52’
.
Dreigiau
Ceisiau: Carl Meyer 48’, Elliot Dee 56’
Trosiadau: Dorian Jones 48’, 56’
Ciciau Cosb: Dorian Jones 18’, 31’, 36’, 53’, Carl Meyer 71’
Cardiau Melyn: Dorian Jones 66’