Aldershot 0–1 Wrecsam
Roedd un gôl yn ddigon wrth i Wrecsam ennill ar y Rec yn Aldershot brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Wes York unig gôl y gêm toc wedi’r awr a gorffennodd Aldershot gêm gyda deg dyn.
Y tîm cartref a gafodd y gorau o hanner cyntaf di sgôr, ond Wrecsam aeth aeth ar y blaen yn yr ail hanner pan wyrodd York groesiad Dominic Vose i gefn y rhwyd.
Bu rhaid i Jake Gallagher adael y cae wedi hynny ar ôl derbyn ail gerdyn melyn, ac er i Sean Newton ddod yn agos at ddyblu’r fantais bu rhaid iddynt fodloni ar ennill o un gôl yn y diwedd.
Mae’r canlyniad yn codi’r Dreigiau i’r chweched safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Aldershot
Tîm: Smith, Alexander, Beckles, Barker, McGinty, Walker, Gallagher, Stevenson, Brodie, Walker (Akinyemi 77′), Hatton (Browne 66′)
Cardiau Melyn: Barker 48’, Gallagher 68’, 72’, McGinty 90’
Cerdyn Coch: Gallagher 72’
.
Wrecsam
Tîm: Belford, Newton, Smith, Jennings, Fyfield Hudson, Vose, Moke, Carrington, Evans, York
Gôl: York 63’
Cardiau Melyn: Newton 84’, Evans 90’
.
Torf: 1,483