Casnewydd 0–0 Yeovil
Mae rhediad calonogol diweddar Casnewydd yn parhau yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Yeovil ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Yn dilyn dechrau trychinebus i’r tymor, mae’r Alltudion bellach wedi mynd bump gêm heb golli yn yr Ail Adran.
Yr ymwelwyr addaeth agosaf at sgorio mewn gêm ddiflas, ond roedd Joe Day yn ddigon effro i atal peniad hwyr Harry Cornick.
Mae’r canlyniad yn eu cadw yn unfed ar hugain yn y tabl, bedwar pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Partridge, Bennett, Hughes, Barnum-Bobb, Rodman (Klukowski 91′), Byrne, Elito, Barrow (O’Sullivan 82′), John-Lewis, Ansah (Boden 68′)
.
Yeovil
Tîm: Weale, Tozer, Ward, Lacey, Smith, Dolan, Fogden, Roberts, Zoko (G Thomas 68′), Bird (Dickson 76′), Cornick (Jeffers 88′)
.
Torf: 3,084