Derby 2–0 Caerdydd
Colli fu hanes Caerydd wrth iddynt ymweld â Pride Park i wynebu Derby yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe aeth y tîm cartref yn haeddianol ar y blaen wedi deg munud o’r ail gyfnod. Gorffennodd George Thorne yn gelfydd o bymtheg llath wedi i Chris Martin osod y bêl yn daclus iddo.
Roedd Thorne yn ei chanol hi eto wrth i Andreas Weimann ddyblu’r fantais chwarter awr o’r diwedd. Llwyddodd Marshall i arbed ergyd Thorne ond sgoriodd Weimann ar yr ail gynnig.
Wnaeth yr Adar Gleision ddim bygwth lawer o flaen gôl, ac unwaith yr oedd Derby ddwy gôl ar y blaen, roedd y gêm drosodd.
Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Derby
Tîm: Carson, Christie (Baird 82′), Keogh, Shackell, Warnock, Johnson, Thorne, Butterfield (Bryson 71′), Ince (Russell 71′), Martin, Weimann
Goliau: Thorne 55’, Weimann 76’
Cerdyn Melyn: Johnson 51’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Noone, Dikgacoi (O’Keefe 72′), Whittingham (Kennedy 78′), Ralls, Jones, Mason (Ameobi 63′)
Cardiau Melyn: Noone 69’, Connolly 77’
.
Torf: 29,526