Abertawe 2–2 Bournemouth                                                         

Cafodd Abertawe gêm gyfartal brynhawn Sadwrn er i Bournemouth fynd ddwy gôl ar y blaen ar y Liberty.

Rhoddodd goliau King a Gosling yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen ond roedd yr Elyrch yn gyfartal cyn yr egwyl diolch i goliau Aeyw a Shelvey, ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Deg munud oedd ar y cloc pan roddodd Joh King yr ymwelwyr ar y blaen yn dilyn gwaith creu Junior Stanislas.

Dyblodd Dan Gosling y fantais wedi 26 munud wedi derbyn pas Matt Ritchie.

Dau funud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i André Aeyw dynnu un yn ôl i’r Elyrch, yn gorffen wedi i Jonjo Shelvey benio’r bêl i’w lwybr.

Cyfunodd yr un chwaraewyr eto wrth i Abertawe unioni bethau chew munud cyn yr egywl, Ayew yn ennill cic o’r smotyn a Shelvey yn ei sgorio.

Bournemouth oedd y tîm gorau yn yr ail hanner ond prin oedd y cyfleoedd clir yn y ddau ben.

Mae’r pwynt yn cadw Abertawe yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Bartley, Williams, Taylor, Britton (Sigurdsson 70′), Ki Sung-yueng, Routledge (Montero 70′), Shelvey, Ayew, Éder (Gomis 73′)

Goliau: Ayew 28’, Shelvey [c.o.s.] 39’

Cardiau Melyn: Bartley 72’, Sigurdsson 87’, Shelvey 87’

.

Bournemouth

Tîm: Federici, Francis, Cook, Distin, Daniels, Ritchie (Smith 80′), Surman, Gosling, Stanislas, Arter (MacDonald 90′), King (Murray 86′)

Goliau: King 10’, Gosling 26’

Cardiau Melyn: Ritchie 30’, Stanislas 51’

.

Torf: 20,878