Tony Pulis
Mae’r Cymro Tony Pulis wedi herio cymdeithasau pêl-droed rhyngwladol gan ddweud y dylen nhw dalu clybiau i gael defnyddio chwaraewyr.

Roedd rheolwr West Brom wedi disgrifio’r cyfnod rhyngwladol diweddar pan chwaraeodd sawl gwlad gemau cyfeillgar fel “gwastraff amser”.

Mae wedi aildanio’r ffrae heddiw gan fynnu nad yw’n deg bod clybiau’n talu cyflogau chwaraewyr tra’u bod nhw ffwrdd yn cynrychioli’u gwlad.

Ac fe allai’r sylwadau ddod nôl i’w frathu petai eisiau ceisio am swydd fel rheolwr rhyngwladol yn y dyfodol, gyda Chymru ar un tro wedi ystyried ei benodi.

Talu’n ddrud

Doedd Pulis ddim yn hapus fod chwaraewyr West Brom fel James Chester (Cymru), Jonny Evans a Gareth McAuley (Gogledd Iwerddon) wedi chwarae gemau llawn dros eu gwledydd yn ddiweddar.

Mynnodd y dylai cymdeithasau pêl-droed rhyngwladol dalu’r bil am y cyfnod – er y byddai hynny’n golygu y gallai Cymru fod yn talu hyd at £600,000 bob tro maen nhw eisiau defnyddio Gareth Bale ar gyfer gemau.

“Tasech chi’n mynd at bob cymdeithas bêl-droed a dweud ar gyfer gemau cyfeillgar bod yn rhaid iddyn nhw dalu cyflogau am bythefnos, ac os ydyn nhw’n anafu bod rhaid talu am hynny, ac os ydyn nhw byth yn chwarae eto bod rhaid talu’r yswiriant, cawn weld faint o gemau cyfeillgar gaiff eu chwarae wedyn,” meddai Pulis.

“Fy nadl i yw bod llawer o gemau’r adeg yma o’r flwyddyn. Maen nhw wedi chwarae tipyn o gemau.”