Mae Alun Wyn Jones yn dweud bod gan dîm rygbi’r Llewod “blethora o opsiynau” yn y garfan ar gyfer y daith i Dde Affrica, gan gydnabod nad yw yntau’n sicr o’i le er ei fod e’n gapten ar y garfan.

Er ei fod e’n gapten ar y tîm prawf yn absenoldeb Sam Warburton yn Awstralia wyth mlynedd yn ôl, dyma’r tro cyntaf i’r chwaraewr ail reng arwain y garfan yn swyddogol ar daith y Llewod.

“Rydych chi’n cael tipyn o longyfarchiadau am fod yn gapten, ond rydych chi eisiau bod yn y tîm prawf hwnnw,” meddai.

“[Mae] cystadleuaeth ar draws y garfan ac yn y [gemau] canol wythnos, mae plethora o opsiynau, hybrids sy’n gallu bod yn y rheng ôl hefyd.

“Dyna rydych chi ei eisiau, carfan gref fel bod tîm prawf cryf yn dod trwodd.”

‘Swreal’

Mae’n dweud bod cael ei benodi’n gapten yn deimlad “swreal”, ac yntau’n ymuno â chriw nodedig o bobol sydd wedi arwain y garfan yn Hemisffer y De.

“Mae’n swreal. Dw i wedi bod yn ymwybodol erioed o bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y Llewod, nid dim ond y capteniaid,” meddai.

“Mae cael ychwanegu eich enw at ddiwedd yr enwau hynny’n swreal a dw i’n deall yn iawn y disgwyliadau i’r pedair gwlad a’r cefnogwyr.”

Mae’n dweud ymhellach fod y daith hon eisoes yn unigryw o ganlyniad i’r newidiadau a fu yn sgil Covid-19, ac y bydd hynny’n sbarduno’r garfan yn Ne Affrica.

Cymeriadau amrywiol

Gyda’r garfan o 37 chwaraewr yn gyfuniad eithaf cytbwys o ran chwaraewyr o’r pedair gwlad, mae Alun Wyn Jones yn disgwyl carfan ddigon amrywiol o ran eu cymeriad hefyd.

“Dyw pawb ddim yr un fath ac mae’n rhaid i chi sylwi ar nodweddion” meddai.

“Rydych chi’n nabod y rhai sy’n gystadleuol, y bois a fydd yn camu i’r blaen o ran y criw adloniant.

“Dw i eisiau i bawb fod yn falch o le maen nhw’n dod a beth a phwy maen nhw’n ei gynrychioli.

“Mae cael bod yn y garfan honno’n beth arbennig iawn a fydd e ddim yn cael ei wastraffu.”