Cafodd Owen Lane a Rhys Lawrence gerdyn coch yr un wrth i’r Gleision guro’r Dreigiau o 17-16 yng Nghwpan yr Enfys y PRO14 yng Nghasnewydd.

Cafodd y ddau eu hanfon o’r cae am dacl uchel.

Cael a chael oedd hi drwy gydol y gêm, ond collodd y Dreigiau sawl cyfle i fanteisio ar ddau ddyn ychwanegol pan oedd y Gleision i lawr i 13 dyn am gyfnod yn yr ail hanner.

Sgoriodd Josh Adams a Teddy Williams gais yr un i’r Gleision, gyda Ben Thomas yn cicio cic gosb a throsiad, a Jarrod Evans hefyd yn ychwanegu trosiad.

Daeth unig gais y Dreigiau gan Rhys Lawrence, gyda Sam Davies yn cicio tair cic gosb a throsiad.