Daeth gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn ym Manceinion i ben yn gyfartal, ac er nad oedd canlyniad positif yn bosib, roedd digon o gyffro yn Old Trafford.
Cipiodd y ddau dîm 14 pwynt yr un ar ddiwedd gêm a gafodd ei chwtogi’n sylweddol oherwydd y glaw, gyda llai na dau fatiad cyflawn yn bosib.
Ar ôl i Forgannwg sgorio 344 yn eu batiad cyntaf, ymatebodd y tîm cartref gyda 301 am naw cyn cau’r batiad i ddod â’r ornest i ben.
Manylion y gêm
Cafodd y trydydd diwrnod ei golli yn ei gyfanrwydd o ganlyniad i’r tywydd ac felly, ar y diwrnod olaf, roedd hi’n anochel y byddai’r ornest yn gorffen yn gyfartal.
Dim ond pwyntiau bonws oedd ar gael, a tharodd Keaton Jennings (64) a Josh Bohannon (53) hanner canred yr un wrth i’r tîm cartref gipio un pwynt batio olaf am gyrraedd 300 cyn dirwyn yr ornest i ben.
Dechreuodd y Saeson y diwrnod olaf ar 22 heb golli wiced, ond collon nhw’r wiced gyntaf o fewn dim o dro pan gipiodd yr Awstraliad Michael Neser ei wiced gyntaf i Forgannwg wrth i Alex Davies ddarganfod dwylo diogel y wicedwr Chris Cooke am 15.
Daeth Luke Wells i’r llain ar gyfer ei fatiad cyntaf ym Manceinion i’w sir newydd ac fe ychwanegodd e a Jennings 62 am yr ail wiced cyn i Wells gael ei ddal yn syth ar ochr y goes gan Dan Douthwaite oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter am 30, a’r sgôr yn 86 am ddwy.
Cyrhaeddodd Jennings ei drydydd hanner canred o’r bron oddi ar 163 o belenni wrth yrru Neser i’r ffin ochr agored am bedwar.
Ond cam-ergyd arweiniodd at golli ei wiced wedyn, wrth iddo yrru at Callum Taylor y tu ôl i’r safle sgwâr ar yr ochr agored am 64.
Erbyn hynny, roedd Swydd Gaerhirfryn wedi ymlwybro i 132 am dair ond taniodd Liam Livingstone ar unwaith wrth daro’i rediadau cyntaf gyda chwech oddi ar fowlio Salter.
Ben draw’r llain, fe wnaeth Bohannon ymosod yn erbyn y troellwr coes Marnus Labuschagne wrth i’r batwyr gyflymu’r gyfradd sgorio mewn ymgais i ennill pwyntiau bonws.
Ychwanegon nhw 50 oddi ar 57 o belenni rhyngddyn nhw cyn i Livingstone daro un ergyd fawr yn ormod a dod o hyd i Joe Cooke ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 25, a’r sgôr yn 183 am bedair.
Cyrhaeddodd Bohannon ei drydydd hanner canred y tymor hwn oddi ar 105 o belenni ond fe gollodd ei wiced wrth dorri yn erbyn Callum Taylor a chael ei ddal gan Salter y tu ôl i’r safle sgwâr ar yr ochr agored am 53.
Cafodd 12 pelawd eu colli wedyn o ganlyniad i’r glaw a golau gwael ac fe ddychwelodd y Saeson i fatio’n ymosodol gyda Dane Vilas yn cael ei ddal yn safle’r trydydd dyn gan Joe Cooke oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 25, a Luke Wood yn cam-ergydio oddi ar Douthwaite i fenyg y wicedwr Chris Cooke am 28.
Roedden nhw’n 265 am saith erbyn hynny, a tharodd Saqib Mahmood gyfres o ergydion i’r ffin cyn i Neser gipio chwip o ddaliad ag un llaw oddi ar ei fowlio’i hun i waredu’r batiwr.
Cwympodd y nawfed wiced ar 286 pan gafodd Danny Lamb ei fowlio am 22, cyn i Jimmy Anderson, bowliwr cyflym Lloegr, ddod i’r llain.
Cipion nhw’r pwynt batio ychwanegol wrth gyrraedd 300 cyn i’r ornest ddod i ben.
Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr nesaf Morgannwg yng Nghaerdydd, ac mae’r gêm honno’n dechrau ddydd Iau (Mai 13).
Ymateb Morgannwg
“Dw i’n hapus iawn drwyddi draw efo’r gêm,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.
“Mi gollon ni gryn dipyn i’r tywydd ond ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi dal ati’n eitha’ da heddiw.
“Yn amlwg, roedd yna gyfnodau pan ddaeth bois Swydd Gaerhirfryn aton ni’n galed ond ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cadw at ein tasg yn dda ac mi lwyddon ni i gael y naw wiced a’r pwynt bonws ychwanegol hwnnw.
“Roedd o’n adlewyrchiad teg o’r gêm yn gyffredinol – mi frwydron ni’n galed efo’r bat a’r bêl fel y gwnaeth Swydd Gaerhirfryn.
“Mae ein perfformiadau wedi bod yn eitha’ cyson drwyddi draw, hyd yn oed os nad ydan ni wedi cael y canlyniadau roeddan ni ei heisiau.
“Ond rydan ni wedi brwydro’n galed fel uned drwy gydol yr ymgyrch ac rŵan, o gael Marnus [Labuschagne] a Michael Neser efo ni, fedrwn ni edrych ymlaen at y pum gêm nesa’.
“Rydan ni mewn sefyllfa resymol yn y grŵp ac os fedrwn ni gael ambell ganlyniad, mi fedrwn ni symud i fyny’r tabl a dyna fyddwn ni’n anelu i’w wneud.”