Mae Glenn Delaney wedi gadael ei swydd yn brif hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Scarlets ar unwaith.
Daeth y cyhoeddiad annisgwyl yn dilyn y fuddugoliaeth o 22-6 dros y Gweilch yng Nghwpan yr Enfys neithiwr (nos Sadwrn, Mai 8).
Bydd Dai Flanagan wrth y llyw am weddill y gystadleuaeth.
Ymunodd Delaney â’r rhanbarth yn hyfforddwr amddiffyn cyn dechrau tymor 2019-20, ac fe gafodd ei benodi’n brif hyfforddwr yn 2020-21 pan adawodd Brad Mooar.
Mewn datganiad, dywedodd y bu’n “bleser mawr” cael hyfforddi’r “clwb gwych hwn” ond hefyd y bu’n “dymor anodd gyda’r pandemig byd-eang yn creu nifer o faterion heriol y mae’r staff a’r tîm wedi ymdrin â nhw’n arbennig o dda”.
Dywed ymhellach fod ganddo fe “atgofion gwych o ddwy flynedd hyfryd allan yn y gorllewin”.
Ymhlith ei atgofion, meddai, mae teithio i Toulon, Bayonne a Gwyddelod Llundain “lle’r oedd y gefnogaeth a deithiodd yn anghredadwy”.
“Dw i’n gwybod fod y clwb mewn dwylo gwych wrth symud ymlaen i’r tymor newydd a dw i ond yn dymuno’r gorau iddyn nhw,” meddai wedyn.
“Dw i eisiau dweud diolch yn fawr i’r staff gwych a’r chwaraewyr rhagorol yma yn y Scarlets ac, wrth gwrs, y cefngowyr. Dw i wedi bod wrth fy modd bob dydd yn gweithio gyda chi i gyd.”
Yn Gymraeg wedyn, dywedodd, “Rwy’n dymuno’r gorau i chi gyd yn y dyfodol”.
‘Diolch’
“Hoffem ddiolch i Glenn am ei ymroddiad llwyr i’r Scarlets yn ystod ei gyfnod yma, ac rydym yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol,” meddai Simon Muderack, cadeirydd gweithredol y Scarlets.