Hwlffordd 1-2 Y Drenewydd

Sicrhaodd y Drenewydd eu lle yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd gyda buddugoliaeth yn erbyn Hwlffordd ar Ddôl y Bont.

Mae’r Robiniaid yn sicr o orffen y tymor arferol yn y seithfed safle holl bwysig ar ôl ennill o ddwy gôl i un yn Sir Benfro.

Goliau cynnar

Daeth holl goliau’r gêm yn yr hanner awr cyntaf. Aeth y Drenewydd ar y blaen wedi dim ond dau funud diolch i gôl ddigon blêr o gic gornel Craig Williams, cyfuniad o Tyrone Ofori ac amddiffynnwr yn gwyro’r bêl i’r rhwyd.

Unionodd Ben Fawcett i’r tîm cartref cyn i Shane Sutton adfer mantais yr ymwelwyr gyda pheniad o gic gornel arall.

Y daith i Ewrop

Mae’r tri phwynt yn rhoi’r Drenewydd bum pwynt yn glir o Met Caerdydd gyda dim ond un gêm yn weddill.

Mae eu lle yn y gemau ail gyfle’n ddiogel felly a thaith i Benybont a fydd yn eu haros yn y rownd gynderfynol wrth iddynt gystadlu am y safle olaf Cymru yng Nghynghrair Europa.

 

*

 

Met Caerdydd 6-0 Derwyddon Cefn

Parhau a wnaeth tymor trychinebus Derwyddon Cefn wrth iddynt golli’n drwm yn erbyn Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed.

Roedd y Myfyrwyr bum gôl ar y blaen ac yn chwarae yn erbyn deg dyn erbyn hanner amser.

Eliot “Cruyff” Evans!

Deuddeg munud a oedd ar y cloc pan sgoriodd Ollie Hulbert ei bedwaredd gôl ar ddeg o’r tymor yn dilyn troad Cruyff gan Eliot Evans ar yr asgell chwith!

Roedd ail gôl Met yn enghraifft berffaith o pam fod Cefn wedi ildio 93 gôl y tymor hwn. Cafodd eu hamddiffyn ei hollti gan un bêl hir obeithiol o’r cefn a Lewis Rees a oedd yr un i fanteisio.

Mae diffyg disgyblaeth wedi bod yn thema yn nhranc y Derwyddon hefyd ac roedd cerdyn coch yn ffactor yn y gêm hon eto, eu pedwerydd mewn pum gêm.

Jacob Wise a oedd y gŵr annoeth a gerddodd am gawod gynnar y tro hwn a rhwydodd Evans drydedd gôl y gêm o’r gic o’r smotyn ganlynol.

Daeth dwy arall cyn yr egwyl, peniad Tom Price o groesiad Matt Blake ac yna ail Evans o’r gêm.

29-1

Efallai fod Met wedi teimlo trueni dros eu gwrthwynebwyr wedi’r egwyl a dim ond un gôl arall a gafodd ei hychwanegu at y cyfanswm, ymdrech hwyr Craig Davies.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Derwyddon Cefn wedi colli’r pum gêm ddiwethaf gan ildio 29 gôl a sgorio un! Does fawr o syndod felly eu bod ar waelod y tabl.

Er gwaethaf adfywiad diweddar y Met, rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth iddynt orfod bodloni ar yr wythfed safle a dim lle yn y gemau ail gyfle.

 

*

 

Y Bala 1-0 Penybont

Cafwyd gôl hwyr ar Faes Tegid wrth i’r Bala drechu Penybont mewn gêm heb lawer o arwyddocâd yn y tabl.

Nathan Peate a’i cafodd hi gyda, yn penio croesiad cywir Lassana Mendes i gefn y rhwyd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

 

Roedd y Bala yn sicr o’r trydydd safle a lle awtomatig yn Ewrop ym mhell cyn y gêm hon ac mae Penybont bellach yn sicr o orffen yn bedwerydd oherwydd colled y Barri yn erbyn y Seintiau Newydd.

 

*

 

Y Fflint 0-0 Aberystwyth

Nid oedd llawer ar y gêm hon rhwng y Fflint ac Aberystwyth ar Gae’r Castell, gêm ddiwedd tymor os gwelwyd un erioed ac roedd hynny’n amlwg yn y sgôr terfynol, gêm gyfartal ddi sgôr.

Dichon mai’r Fflint fydd fwyaf bodlon â’r canlyniad, yn rhannol gan iddynt chwarae’r ail hanner gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Josh Amis ar ddiwedd yr hanner cyntaf am drosedd ar Jamie Veale.

Mae’r pwynt hefyd yn eu cadw uwch ben Aber yn y tabl, yn ddegfed gydag un gêm ar ôl.

 

*

 

Y Seintiau Newydd 3-0 Y Barri

Cadwodd y Seintiau Newydd eu hochr hwy o’r fargen i sicrhau fod y frwydr am deitl y Cymru Premier yn mynd yr holl ffordd at y Sadwrn olaf wrth guro’r Barri ar Neuadd y Parc.

Di sgôr a oedd hi ar hanner amser yng Nghroesoswallt ond sgoriodd y Seintiau dair wedi’r egwyl i aros o fewn cyrraedd at Gei Connah gydag un gêm yn weddill.

Ryan yn hedfan

Mae rhediad anhygoel diweddar Ryan Brobbel yn parhau ac ef a roddodd y Seintiau ar y blaen yn gynnar wedi’r egwyl yn dilyn rhediad pwrpasol Jamie Mullan i’r cwrt cosbi.

Roedd Mullan yn ei chanol hi eto ar gyfer yr ail, yn cyfuno’n dda gyda Ben Clark i roi’r gôl ar blât i Adrian Cieslewicz.

Brobbel a gafodd y drydedd, o’r smotyn, ei ail gôl o’r gêm a’i ddeuddegfed mewn un gêm ar ddeg.

Y tabl

Mae’r canlyniad yn cadw’r Seintiau o fewn dau bwynt i’r Nomadiaid ar y brig gydag un gêm i fynd. Mae’r Seintiau yn croesawu’r Bala i Neuadd y Parc ddydd Sadwrn nesaf tra mae Cei Connah yn teithio i Benybont.

 

*

 

Cei Connah 4-0 Caernarfon

Cei Connah fydd â’r fantais wrth i’r frwydr am y bencampwriaeth fynd i’r Sadwrn olaf ar ôl curo Caernarfon o bedair gôl i ddim yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy yng ngêm fyw Sgorio nos Sadwrn.

Rheolodd y Nomadiaid y gêm gyfan ond bu’n rhaid iddynt aros tan y chwarter olaf i ddiogelu’r tri phwynt, yn sgorio deirgwaith yn dilyn cerdyn coch i gôl-geidwad y Cofis, Lewis Brass.

Gôl gynnar

Deg munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Jamie Insall y tîm cartref ar y blaen, yn amseru’i rediad i’r cwrt chwech yn berffaith i wyro croesiad cywir Declan Poole i gefn y rhwyd.

Daeth llu o gyfleoedd eraill wedi hynny ond dim ond un gôl a oedd ynddi wrth droi. Aros felly a wnaeth hi ar ddechrau’r ail hanner hefyd, gyda Paulo Mendes yn clirio cynnig Callum Morris oddi ar y llinell.

Mae’n annheg galw cerdyn coch Caernarfon hanner ffordd trwy’r ail hanner yn drobwynt mewn gêm a gafodd ei llwyr reoli gan Gei Connah ond roedd yn ddigwyddiad arwyddocaol heb os.

Camau Brass

Cerdyn coch yn erbyn Caernarfon a roddodd ddiwedd ar yrfa Brass fel golwr Cei Connah yn gynharach yn y tymor ac mae’r Geordie bellach yn meddu ar record anarferol o fod wedi ei anfon oddi ar y cae i ddau dîm mewn gemau yn erbyn ei gilydd yn yr un tymor!

Twpdra llwyr a oedd yn gyfrifol am yr un ar yr Oval ym mis Tachwedd ond roedd Brass braidd yn anffodus y tro hwn. Insall a oedd y gŵr a aeth i’r llawr ond nid oedd hi’n berffaith glir faint o gyffyrddiad a oedd rhwng y ddau. A hyd yn oed os oedd hi’n drosedd, ymgais i gicio’r bêl oedd hi ac mae’r rheolau erbyn hyn yn nodi fod yn rhaid i drosedd “dyn olaf” fod yn un fwriadol i warantu cerdyn coch.

Nid dyma’r tro cyntaf i Gei Connah elwa o benderfyniad dadleuol yr wythnos hon wedi iddynt ennill cic o’r smotyn ffodus iawn i ennill yn y Barri ganol wythnos.

I roi’r halen ym mriw Caernarfon (a’r Seintiau), fe sgoriodd y Nomadiaid o’r gic rydd hefyd; ymdrech Kris Owens yn taro’r postyn ond Aron Williams yn ymateb yn gynt na neb yn y cwrt cosbi i rwydo’r ail gynnig.

Cwblhaodd Morris y sgorio gyda dwy gôl unigol dda yn y chwarter awr olaf; yn crymanu’r gyntaf i’r gornel uchaf cyn rhoi blaen-troedar i’r llall i’r gornel isaf, y ddwy o ochr y cwrt cosbi.

Y Sadwrn olaf

Ymlaen i’r Sadwrn olaf felly, bydd Andy Morrison a’i dîm yn gwybod y bydd buddugoliaeth ym Mhenybont yn sicrhau’r gynghrair iddynt am yr ail dymor yn olynol.

Ond gyda’r Seintiau ddim ond ddau bwynt y tu ôl iddynt a gyda gwahaniaeth goliau sylweddol well, bydd unrhyw beth ar wahân i dri phwynt i’r Nomadiaid yn agor y drws i’w gwrthwynebwyr.

 

*

 

Gwilym Dwyfor