Mae Freddie Woodman, golwr Abertawe, wedi ennill Maneg Aur y Bencampwriaeth am gadw’r nifer fwyaf o lechi glân y tymor hwn.

Cadwodd e 20 o lechi glân yng ngemau’r gynghrair, – a fe yw golwr cynta’r Elyrch ers Dorus de Vries i ennill y wobr, gyda’r Iseldirwr yn cadw 24 – pedair yn fwy na Woodman – yn ystod tymor 2009-10.

Mae Woodman wedi treulio ail dymor ar fenthyg o Newcastle y tymor hwn, ac mae e wedi arwain y tîm i’r gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol.

Derbyniodd e’r tlws ar ddiwedd y gêm yn Watford heddiw, ar ôl i’r Elyrch golli o 2-0 yn erbyn y tîm sydd wedi ennill dyrchafiad awtomatig.

Yn ôl y golwr, mae’r wobr yn adlewyrchu perfformiad y tîm yn ystod y tymor, ac mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “euog” wrth ei hennill hi’n bersonol.

“Er mai fy enw i sydd ar y tlws, y tîm sydd wedi ennill y wobr mewn gwirionedd,” meddai.

“Mae pob chwaraewr wedi chwarae ei ran ac fe ddylen nhw deimlo’n falch.”

Hwb ychwanegol i’r Elyrch

Wrth longyfarch ei golwr, mae’r rheolwr Steve Cooper yn dweud y gall ei wobr sbarduno’r tîm cyfan ar gyfer y gemau ail gyfle yn erbyn Barnsley.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae ymhen naw diwrnod (dydd Llun, Mai 17, 8.15yh).

“Mae’n wych i Freddie gael cydnabyddiaeth fel hyn, ac roedd e’n gyflym iawn yn dweud fod hon yn fwy o wobr am ymdrechion y tîm,” meddai.

“Dyna rydyn ni’n sefyll drosto yma – y tîm yw popeth, ac mae pawb o fewn y garfan yn credu hynny.

“Rydyn ni’n angerddol yn ei gylch e ac mae’n ddull sydd wedi llwyddo i ni unwaith eto’r tymor hwn.”