Mae tîm pêl-droed Casnewydd wedi sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Ail Adran ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn Southend.

Cafodd cwymp Southend o’r Gynghrair Bêl-droed ar ôl 101 o flynyddoedd ei chadarnhau yr wythnos ddiwethaf.

Aeth Southend ar y blaen drwy Shaun Hobson cyn i Mickey Demetriou benio’r bêl i’r rhwyd i unioni’r sgôr.

Fe wnaeth Tom King arbed cic o’r smotyn gan Matt Rush wedyn i sicrhau’r pwynt i dîm Mike Flynn, ac fe fyddan nhw’n herio Forest Green yng ngêm gyn-derfynol y gemau ail gyfle.

Mae’r Alltudion wedi gorffen y gynghrair yn y pumed safle, un safle uwchlaw Forest Green.

Ond roedd cysgod dros y gêm i’r Alltudion wrth i’r capten Joss Labadie orfod gadael y cae ag anaf.

‘Rhagorol’

“Mae’r chwaraewyr yn haeddu’r holl glod ac maen nhw wedi bod yn rhagorol y tymor hwn,” meddai Flynn.

“Pe baen ni wedi bod ychydig yn fwy clinigol, bydden ni’n sicr wedi bod ymhlith y tri uchaf ond rydyn ni’n edrych ymlaen at herio Forest Green.

“Alla i ddim aros i’w cael nhw yn Rodney Parade, ond mae’n her anodd.

“Maen nhw wedi creu cryn argraff arna i ac fe wnaeth Mark Cooper jobyn da iawn yno.

“Mae e wedi adeiladu carfan dda a dw i’n gwybod ei fod e wedi mynd nawr, ond mae gyda fi gryn dipyn o amser iddo fe.

“Mae’n mynd i fod yn her anodd, ond yn un rydyn ni’n edrych ymlaen ati.”