Mae’r ras am dlws Cymru Premier wedi mynd yr holl ffordd i’r gêm olaf.

Mae’r Seintiau Newydd ar y brig ar ôl curo’r Barri o 3-0.

Ond yn y gêm olaf sy’n dechrau am 5.15yh, gallai Cei Connah ddychwelyd i’r brig pe baen nhw’n ennill gartref yn erbyn Caernarfon.

Roedd Cei Connah ddau bwynt ar y blaen cyn heddiw, ond mae’r Seintiau Newydd bellach ar y blaen o un pwynt.