Munster 35–27 Gleision

Colli fu hanes y Gleision ar Barc Musgrave brynhawn Sadwrn er iddynt roi gêm dda i’r Gwyddelod yn y Guinness Pro12.

Yn wir, roedd y Cymry ar y blaen ar hanner amser diolch i geisiau Tavis Knoyle a Richard Smith ond roedd y tîm cartref fymryn rhy gryf yn yr ail ddeugain munud.

Roedd Rhys Patchell wedi methu gyda sawl cynnig at y pyst cyn iddo gicio’r Gleision ar y blaen wedi chwarter awr.

Daeth cais cyntaf y gêm yn fuan wedyn wrth i Knoyle groesi’r gwyngalch ac roedd yr ymwelwyr ddeg pwynt ar y blaen wedi trosiad Patchell.

Aeth Munster ar y blaen yn fuan wedyn wrth groesi am ddau gais mewn tri munud, y naill i Mike Sherry a’r llall i Ian Keatley.

Y Gleision serch hynny oedd ar y blaen ar yr egwyl gan i Smith groesi gyda symudiad olaf yr hanner, 14-17 y sgôr.

Ymestynnodd cais Tom Isaacs y fantais honno yn gynnar yn yr ail hanner ond yn ôl yn gryf y daeth Munster.

Rhoddodd ail gais Sherry y Gwyddelod yn ôl o fewn sgôr cyn i Jordan Coughlan roi ei dîm ar y blaen toc wedi’r awr, y blaenasgellwr yn plymio ar y bêl wedi iddi dasgu allan o sgrym bump amddiffynnol y Gleision.

Rhoddodd cic gosb Patchell y Gleision yn ôl o fewn pwynt gyda deg munud i fynd ond doedd dim hyd yn oed pwynt bonws i fod i’r Cymry gan i Andrew Conway groesi am bumed cais i Munster saith munud o’r diwedd.

Llwyddodd Keatley gyda phump trosiad allan o bump, 35-27 y sgôr terfynol o blaid y Gwyddelod.

.

Munster

Ceisiau: Mike Sherry 27’, 52’, Ian Keatley 30’, Jordan Coghlan 62’, Andrew Conway 73’

Trosiadau: Ian Keatley 28’, 30’, 53’, 63’, 74’

.

Gleision

Ceisiau: Tavis Knoyle 23’, Richard Smith 40’, Tom Isaacs 42’

Trosiadau: Rhys Patchell 24’, 40’, 44’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 15’, 70’

Cerdyn Melyn: Jevon Groves 73’