Treviso 15–25 Gweilch
Cafodd y Gweilch daith lwyddiannus i’r Stadio Comunale di Monigo i herio Treviso yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Sam Davies bymtheg pwynt wrth i’w dîm drechu’r Eidalwyr o ddeg pwynt yn y diwedd.
Dechreuodd Treviso yn dda gyda chic gosb o droed Jayden Hayward wedi dim ond dau funud.
Daeth Dan Evans ar y cae wedyn yn dilyn anaf cynnar i Hanno Dirksen ac roedd wedi croesi am y cais agoriadol o fewn dim i roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi deunaw munud.
Rhoddodd cais James Ambrosini yr Eidalwyr yn ôl ar y blaen cyn i gais Ben John a throsiad Sam Davies adfer mantais y Gweilch, 8-12 y sgôr ar yr egwyl.
Roedd Davies yn amlwg iawn yn yr ail hanner wrth i’r maswr sgorio pob un 13 pwynt y Gweilch yn yr ail gyfnod, dwy gic gosb o bobtu trosgais.
Fe wnaeth cefnwr Treviso, Hayward, drosi cais ei hun yn y deg munud olaf hefyd ond doedd dim amheuaeth am y canlyniad mewn gwirionedd, buddugoliaeth gymharol gyfforddus i’r Gweilch yn y diwedd.
.
Treviso
Ceisiau: James Ambrosini 23’, Jayden Hayward 73’
Trosiad: Jayden Hayward 73’
Cic Gosb: Jayden Hayward 2’
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Evans 18’, Ben John 29’, Sam Davies 63’
Trosiadau: Sam Davies 30’, 64’
Ciciau Cosb: Sam Davies 53’, 76’