Howard Kendall
Mae cyn-reolwr clwb pêl-droed Everton, Howard Kendall, wedi marw yn 69 mlwydd oed.
Fe chwaraeodd i’r clwb cyn dod yn rheolwr deirgwaith i gyd – a’r cyfnod cynta’ o’r rheiny oedd cyfnod mwya’ llwyddiannus Everton erioed.
Fe arweiniodd y clwb i ennill cwpan yr Adran Gyntaf, yn ogystal â chodi Cwpan FA Lloegr a Chwpan Pencampwyr Ewrop.
Bu Howard Kendall hefyd yn rheolwr clybiau Manchester City, Sheffield United, Notts County a Blackburn Rovers.