Glasgow 29–15 Dreigiau Casnewydd Gwent
Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt ymweld â Scotstoun i herio Glasgow yn y Guinness Pro12 nos Wener.
Deg pwynt yr un oedd hi ar hanner amser ond roedd pencampwyr y tymor diwethaf yn rhy gryf i’r Cymry yn yr ail hanner.
Rhoddodd cais Rynard Landman y Dreigiau ar y blaen yn dilyn cic gosb gynnar Rory Clegg i’r tîm cartref.
Adferodd cais Chris Fusaro fantais yr Albanwyr cyn i gic olaf yr hanner gan Jason Tovey unioni pethau ar yr egwyl.
Rhoddodd ceisiau ail hanner Zander Fagerson a Junior Bulumakau Glasgow ddwy sgôr ar y blaen.
Ac er i Ashton Hewitt dynnu un yn ôl i’r Dreigiau, Glasgow a gafodd y gair olaf wrth i gais hwyr Simone Favaro sicrhau pwynt bonws iddynt hwy a dwyn un o afael y Dreigiau.
.
Glasgow
Ceisiau: Chris Fusaro 35’, Zander Fagerson 53’, Junior Bulumakau 69’, Simone Favaro 79’
Trosiadau: Rory Clegg 36’, 53’, 80’
Cic Gosb: Rory Clegg 12’
Cardiau Melyn: Taqele Naiyaravoro 39’, Simone Favaro 63’
.
Dreigiau
Ceisiau: Rynard Landman 23’, Ashton Hewitt 72’
Trosiad: Jason Tovey 24’
Cic Gosb: Jason Tovey 40’