Scarlets 25–14 Leinster
Mae’r Scarlets yn aros ar frig tabl y Guinness Pro12 ar ôl sicrhau pedwaredd buddugoliaeth o’r bron wrth guro Leinster ar Barc y Scarlets nos Wener.
Yr unig siom ar noson dda i Fois y Sosban oedd na chafwyd pwynt bonws er iddynt groesi am drydydd cais gyda dros bum munud ar hugain o’r gêm i fynd.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Scarlets yn gryf ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond pedwar munud diolch i gic gosb Steven Shingler.
Parhau i bwyso a wnaeth y tîm cartref wedi hynny a daeth y cais agoriadol bum munud yn ddiweddarach i James Davies, y blaenasgellwr yn croesi ar yr asgell chwith yn dilyn gwaith paratoi amyneddgar.
Daeth Leinster yn ôl i’r gêm yn raddol wedi hynny ond Bois y Sosban a gafodd yr ail gais yn erbyn llif y chwarae. Daeth hwnnw saith munud cyn yr egwyl pan ryng-gipiodd DTH van der Merwe y bêl ar ei linell 22 medr ei hun cyn rhedeg yr holl ffordd i sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei dîm newydd.
Rhoddodd trosiad Shingler ei dîm bymtheg pwynt i ddim ar y blaen ar hanner amser.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i’r cyntaf, gyda’r Scarlets yn rheoli, ac wedi i Noel Reid gael ei anfon i’r gell gosb i’r Gwyddelod, roedd trydydd cais i’r Cymry yn anorfod.
Seren Canada o Gwpan y Byd, Van der Merwe, sgoriodd hwnnw, ei ail o’r gêm yn dilyn cyfnod hir o bwyso a dwylo gwych gan Regan King.
Rhoddodd trosiad Shingler y tîm cartref bedair sgôr ar y blaen, felly penderfyniad braidd yn od oedd anelu am y pyst gyda chic gosb toc wedi’r awr.
Er i honno fynd drosodd, Leinster wnaeth reoli’r chwarter olaf gan sgorio dau gais cysur, y naill i Isa Nacewa wedi symudiad taclus a’r llall i James Tracy wedi sgarmes symudol effeithiol.
Rhoddodd hynny wedd fwy parchus ar y sgôr i Leinster ond dim dwywaith mai noson y Scarlets oedd hi.
.
Scarlets
Ceisiau: James Davies 9’, DTH van der Merwe 33’, 53’
Trosiadau: Steven Shingler 35’, 54’
Ciciau Cosb: Steven Shingler 4’, 62’
.
Leinster
Ceisiau: Isa Nacewa 63’, James Tracy 79’
Trosiadau: Fergus McFadden 64’, 79’
Cerdyn Melyn: Noel Reid 44’