Chwaraewyr Cymru yn dathlu cyrraedd Ewro 2016 (llun: Adam Davy/PA)
Roedd nos Fawrth yn achlysur i bawb yng Nghymru ddathlu wrth i’r tîm pêl-droed cenedlaethol ennill yng ngêm olaf eu hymgyrch lwyddiannus i gyrraedd Ewro 2016.
Llwyddodd bechgyn Chris Coleman i drechu Andorra o 2-0 diolch i goliau gan Aaron Ramsey a Gareth Bale, gan ddathlu gyda’r cefnogwyr ar y diwedd wrth i’r sylw nawr droi at y gystadleuaeth yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Ar ôl y dathliadau ar y cae, fe ddaeth sawl un o siaradwyr Cymraeg y garfan draw am sgwrs gyda golwg360 am y noson arbennig, a beth mae cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol yn ei olygu i’r genedl.
David Vaughan
Dechreuodd David Vaughan ei gêm gyntaf o’r ymgyrch yn erbyn Andorra, ac fe ddywedodd ei fod yn gobeithio am ragor dros y misoedd nesaf wrth i bawb frwydro i fod yn y garfan fydd yn mynd i Ffrainc.
“Doedd dim pwysau [heno], jyst mynd allan a mwynhau’r gêm, ennill y gêm, ac yna’r celebrations gyda’r ffans,” meddai’r chwaraewr gafodd ei fagu yn Abergele.
“Roedd o’n noson sbesial i’w gael, a gobeithio gawn ni un neu ddau arall dros y misoedd nesaf.”
Joe Allen
Yn ôl Joe Allen, fe fydd sawl un o’r timau yn Ffrainc yn ofni Cymru gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey ac Ashley Williams yn y tîm.
“Ein unig ffocws cyn hyn oedd sicrhau ein bod ni’n cyrraedd, ond nawr fe hoffen ni gymryd y cam nesaf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth allwn ni wneud allan yn Ffrainc,” meddai’r gŵr o’r Preseli.
“Rydyn ni’n arfer gwylio [timau eraill] yn mynd i ffwrdd, felly mae’n grêt cael y cyfle i fod yna hefyd.”
Owain Fôn Williams
Roedd cyrraedd twrnament yn gwireddu breuddwyd oes i’r golwr wrth gefn Owain Fôn Williams.
“I weld pawb yn dod yma o bob cornel o Gymru i gefnogi’n gwlad ni, mae’n wych. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel,” meddai’r golwr o Benygroes yng Ngwynedd.
“Dw i’n cofio mynd i Stadiwm y Mileniwm pan ro’n i’n yr ysgol yn gwylio Cymru yn trio mynd ymlaen i dwrnament.
“Welais i o erioed yn digwydd yn anffodus er bod fi wedi trafaelio hyd a lled y wlad i wylio’r tîm yn chwarae pêl-droed.
“Ond rŵan, i fod yn rhan o’r peth, mae o jyst yn anhygoel, jyst i fod yn rhan o’r beth, gweld y peth a byw’r peth.”
Pod Pêl-droed Golwg360 yn trafod yr wythnos fawr a fu, cip yn ôl ar yr ymgyrch, a gobeithion Cymru yn Ewro 2016: