Tyler Morgan (rhiscottimages CCA 4.0)
Mae canolwr Cymru Tyler Morgan wedi mynnu ei fod yn barod i herio De Affrica yng Nghwpan Rygbi’r Byd dydd Sadwrn er gwaethaf ei ddiffyg profiad ar y lefel ryngwladol.
Dim ond dau gap sydd gan chwaraewr 20 oed y Dreigiau, un mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon cyn y gystadleuaeth eleni a’r llall yn y gêm grŵp yn erbyn Fiji.
Er hynny, ac er galwadau am gynnwys y chwaraewr profiadol James Hook, mae Morgan yn hyderus wrth wynebu’r her, yn enwedig gan ei fod eisoes yn gyfarwydd â chanolwyr y Springboks.
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi awgrymu y bydd Cymru’n ceisio amrywio eu chwarae a gwneud “rhywbeth gwahanol” er mwyn synnu De Affrica a chyrraedd y rownd gynderfynol.
Gwrthwynebwyr cyfarwydd
Tyler Morgan yw aelod ifancaf a mwyaf dibrofiad carfan Cymru, gyda rhai’n holi pam nad oedd James Hook wedi cael ei ddewis yn y canol gyda George North i wynebu De Affrica.
Ond mae canolwyr y Springboks, Jesse Kriel a Damian de Allende, hefyd yn gymharol ddibrofiad ac mae Morgan eisoes wedi chwarae yn eu herbyn ar lefel dan-20.
Ac ar ôl dod dros nerfau ennill ei gap cynta’, mae canolwr Cymru yn hyderus na fydd e’n poeni’n ormodol am yr ornest yn rownd yr wyth olaf fory.
Y pen dwfn
“Dw i’n dod dros bethau yn eithaf hawdd. Y tro cynta’ yw’r anodda’ i fi bob tro,” meddai Tyler Morgan.
“Mae fel petawn i wastad yn cael fy nhaflu i mewn yn y pen dwfn. Roedd fy ngêm gynta’ yn yr Uwch Gynghrair [i Gasnewydd] mewn darbi yn erbyn Cross Keys, fy nhro cyntaf yn y Pro12 oedd Dydd y Farn, a fy ngêm ryngwladol gynta’ oedd yn erbyn Iwerddon, a oedd yn ail yn y byd ar y pryd.
“Maen nhw wedi bod yn gyfleoedd gwych, ac ar ôl y tro cyntaf, dw i wedyn yn llawer mwy pwyllog.”
‘Rhywbeth gwahanol’
Os yw Cymru’n trechu De Affrica yna fe fyddan nhw’n cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth, yr un mor bell ag yr aethon nhw yn 2011, ac yn herio un ai Ffrainc neu Seland Newydd.
Ac mae profiad y gystadleuaeth bedair blynedd yn ôl wedi dangos i Warren Gatland pa mor bwysig yw gallu addasu steil chwarae neu newid ambell beth yn y tîm er mwyn synnu’r gwrthwynebwyr.
“Beth ddysgon ni o 2011 yw bod yn rhaid i chi fod yn barod i daflu rhywbeth gwahanol i mewn i’r pair yn ystod y gystadleuaeth yma,” meddai Gatland.
“Mae un neu ddau newid bychan yn gallu synnu’r tîm arall. R’yn ni wedi gwneud ambell beth yr wythnos yma na fydd De Affrica ddim wedi eu gweld gobeithio.
“Ar y lefel yma mae’n rhaid i chi gymryd risg. Os ydych chi’n edrych ar y penderfyniadau y mae rhai o chwaraewyr gorau’r byd yn ei wneud, maen nhw’n rhai uchel eu risg, ond uchel eu gwobr hefyd.”